Er gwaetha’r argyfwng coronafeirws mae pobol yn dal i heidio i dref Aberteifi, yn ôl ei maer a’i ‘ap’.
Cafodd ‘Ap Tref Aberteifi’ ei lansio yn 2018, a’i bwriad gwreiddiol oedd darparu gwybodaeth i siopwyr a busnesau’r dre.
Mae’r feddalwedd – ochr yn ochr â “sustem ddi-wifr” y dref – yn casglu gwybodaeth am ymwelwyr, ac yn ôl Clive Davies mae defnydd newydd bellach wedi dod i’r amlwg.
Dan y sefyllfa ryfedd sydd ohoni, meddai, mae’n cynnig darlun diddorol o’r niferoedd sydd yn torri rheolau hunan ynysu er mwyn mynd ar dripiau i orllewin Cymru.
“Mae’n rhoi gwybod i ni faint o bobol sy’n dre,” meddai. “Ac yn anffodus, dw i wedi sylwi yn yr wythnos ddiwetha’ bod y niferoedd yn dechrau codi – pobol sydd yn dod mewn i’r dre.
“Falle fod hyn oherwydd y tywydd neu hyd y dydd. Pwy a ŵyr? Ond o ran niferoedd yr ymwelwyr, mae nifer yn dal yn dod mewn i’r dre yn gyson.”
Y sustem ddi-wifr sy’n rhoi syniad ynghylch niferoedd, a’r ap ei hun sydd yn dweud o le maen nhw’n dod. Yn ôl y maer, roedd 26 dyfais newydd yn cael eu cofnodi bob dydd ym mis Ebrill.
Mae Clive Davies yn frwd yn ei apêl ar i’r rheiny y tu allan i Aberteifi gadw draw, ac mae’n dweud bod heddlu’r ardal wedi clywed esgusodion lu gan ymwelwyr – “Allech chi sgwennu llyfr am y peth”.
Helpu mas
Mae Clive Davies yn falch o’r ymdrech leol sydd wedi bod i ddelio â’r argyfwng, ac mae’n tynnu sylw grŵp o bobol leol sydd wedi bod yn delifro meddyginiaeth ar feiciau modur.
Mae hefyd yn canu clodydd cwmni lleol, Ultra Clean, sydd wedi bod yn chwistrellu seddi, biniau, a rheiliau’r dref heb dâl. Glanhau’r palmentydd yw eu cynllun nesa’.