Fe fydd y Prif Weinidog Mark Drakeford yn arwain dau funud o dawelwch o risiau adeiladau Llywodraeth Cymru yng Nghaerdydd am 11 y bore yma.

Mae’r achlysur yn rhan o weithgareddau ledled Prydain i nodi 75 mlynedd ers diwedd yr Ail Ryfel Byd yn Ewrop.

Wrth annog pobl Cymru i gymryd rhan yn yr achlysur o’u cartrefi, meddai Mark Drakeford:

“Wrth siarad â’r holl gyn-filwyr yr wythnos hon, fe wnes i sylweddoli mewn ffordd newydd y rhuddin a’r penderfyniad anghredadwy sy’n perthyn i genhedlaeth gyfan a oroesodd yr Ail Ryfel Byd.

“Fe all pob un ohonom ni edrych arnyn nhw am ysbrydoliaeth i’n helpu i ddelio â’n cyfnod unigryw ni mewn hanes.

“Rydw i eisiau diolch i bob unigolyn ar draws y gymanwlad sydd wedi brwydro yn erbyn ffasgiaeth, gan helpu i adeiladu sylfeini’r gymdeithas rydyn ni i gyd yn elwa arni heddiw.

“Er bod y coronafeirws yn golygu ein bod yn gorfod dathlu Diwrnod VE yn ein cartrefi, rydym dal yn benderfynol o dalu teyrnged. Am 11am, gadewch i ni sefyll yn ein hunfan yn ddistaw a chofio pawb a wnaeth oroesi a’r rheini a gollodd eu bywydau drosom ni.”

Ymhellach ymlaen yn y diwrnod fe fydd y BBC yn darlledu araith Winston Churchill ar yr achlysur y pnawn yma a neges gan y Frenhines am 9 o’r gloch heno.