Mae’r gwledydd datganoledig yn cyfathrebu’n well gyda’r bobol am oblygiadau’r coronafeirws na’r llywodraeth yn Llundain.

Dyna farn Siân Griffiths sy’n Athro Emeritws ym Mhrifysgol Tsieineaidd Hong Kong ac a oedd yn gyd-gadeirydd yr ymchwiliad i mewn i SARS [severe acute respiratory syndrome] – pandemig ddechreuodd yn Tsieina yn 2002 ac sy’n dod o’r un ‘teulu’ â’r coronafeirws.