Bydd rhagor o lacio’r rheolau covid-19 yn cael ei gadarnhau yn ddiweddarach heddiw.

Ar hyn o bryd mae’n rhaid i bobol aros yn eu hardaloedd lleol, ac mae’r cyhoedd yn cael eu cynghori i beidio â theithio ymhellach na pum milltir o’u cartref.

Ond mewn cynhadledd i’r wasg yn brynhawn heddiw, mi fydd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, yn cadarnhau bod y rheol yma yn dod i ben.

Mae disgwyl iddo ddweud bod modd i bobol deithio’n rhydd oddi fewn – ac i mewn  – i Gymru o Orffennaf 6 ymlaen.

Rhagor o lacio

Hefyd o ddydd Llun ymlaen, mi fydd dau gartref yn gallu dod ynghyd i ffurfio ‘aelwyd estynedig’.

Dan y drefn yma bydd modd i bobol o fewn yr ‘aelwyd estynedig’ gwrdd â’i gilydd dan do ac aros dros nos yn nhai ei gilydd.

Yn ddiweddarach yn y mis mae disgwyl i dafarndai, bwytai, a chaffis; ailagor yn rhannol.

Brynhawn ddoe daeth cadarnhad y byddai modd i’r llefydd yma agor eu gwasanaethau tu allan – gerddi cwrw (beer gardens) act ati – o Orffennaf 13 ymlaen.

Bydd gwasanaethau dan do yn parhau ar gau.

O Orffennaf 6 ymlaen mae’n bosib y bydd atyniadau twristiaid hefyd yn ailagor.

“Rheol greulon”

Mae’r rheol pum milltir wedi cael ei feirniadu gan wrthbleidiau’r Senedd, gyda’r Ceidwadwyr yn ei alw’n “rheol greulon”.

Mae cyfyngiadau teithio eisoes wedi eu codi yn Lloegr, ac yn yr Alban daeth rheol pum milltir i ben heddiw.

Ers Mehefin 22, mae pobol wedi medru gadael eu hardaloedd lleol yng Nghymru dan amodau arbennig – i ofalu am deulu, er enghraifft.