Fe allai pobl o ddau gartref ar wahân ddod at ei gilydd i ffurfio un cartref estynedig o Orffennaf 6 ymlaen, os yw achosion coronafeirws yn parhau i ostwng.
Cyhoeddodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, y trefniant newydd yn y gynhadledd ddyddiol ddydd Llun (Mehefin 29).
Bydd y gofyniad aros yn lleol hefyd yn dod i ben ar Orffennaf 6 os bydd yr achosion yn parhau i ostwng ledled y wlad.
Dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd creu un cartref estynedig yn galluogi teuluoedd i ddod at ei gilydd eto a hefyd bydd yn helpu i gefnogi rhieni sy’n gweithio gyda gofal plant anffurfiol dros yr haf, wrth i fwy o fusnesau ailagor eu drysau.
Ond er mwyn helpu i reoli lledaeniad y coronafeirws, “dim ond un cartref estynedig penodol fydd modd ei ffurfio. Ar ôl i gartref benderfynu gyda pha gartref arall mae eisiau ymuno, bydd y trefniant hwn yn sefydlog am y dyfodol rhagweladwy,” meddai’r Llywodraeth.
“Cartrefi estynedig”
“Diolch i ymdrechion pawb yn ystod y misoedd diwethaf, rydyn ni wedi gweld nifer yr achosion newydd o’r coronafeirws yn gostwng – ond nid yw wedi diflannu.
“Rydw i’n gwybod bod pobl yn colli gweld eu teuluoedd. Mae gennym ni le i wneud newid pellach i’r rheolau yr wythnos nesaf a byddwn yn cyflwyno’r cysyniad newydd yma o gartrefi estynedig, a fydd yn galluogi pobl sy’n byw mewn dau gartref ar wahân i ffurfio un cartref estynedig – fe allant fod yn rhan o’r un teulu neu’n ffrindiau agos,” dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford.
“Bydd y trefniant newydd yma’n golygu bod pobl yn gallu ffurfio un cartref estynedig a chyfarfod dan do.”
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi defnyddio profiad o bob cwr o’r byd lle mae’r trefniant yma wedi cael ei gyflwyno yn llwyddiannus, gan gynnwys yn Seland Newydd. Mae cartrefi estynedig yn eu lle yn yr Alban ac mae trefn gofal a chefnogaeth a ‘swigod cymdeithasol’ yn eu lle yn Lloegr a Gogledd Iwerddon.
“Colli penwythnos yn ddiangen”
Yn ôl y Ceidwadwyr, daw’r cyhoeddiad hwn benwythnos yn hwyr.
“Wrth gwrs ein bod ni’r Ceidwadwyr Cymreig yn croesawu’r newyddion hyn” meddai Angela Burns, y Gweinidog Iechyd Cysgodol.
“Ffurfio ‘swigod cymdeithasol’ yw hyn fwy neu lai,” meddai.
“Ond dim ond dydd Gwener diwethaf holais i pam fod yn rhaid i ni aros tan yr wythnos hon i gael y penderfyniad.
“Pe bai wedi cael ei gyhoeddi bryd hynny, byddai wedi osgoi penwythnos coll arall bobl ddi-rif yng Nghymru.
“Mae cymaint o deuluoedd yng Nghymru angen hwb o’r fath ar ôl cymaint o amser ar wahân, ac felly os oes gwyddoniaeth y tu ôl i’r rheswm pam na allai’r penderfyniad fod wedi cael ei gyhoeddi ddydd Gwener, yna dylai’r Prif Weinidog ddweud yn gyhoeddus.”
Angen “mwy o rybudd”
Croesawu’r cyhoeddiad wnaeth Gweinidog Iechyd Cysgodol Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth:
“Rwy’n croesawu’r cyhoeddiad heddiw y bydd swigod cymdeithasol yn opsiwn i ddwy aelwyd ddod yn un aelwyd estynedig. Mae wedi bod yn amlwg trwy brofiadau byw pobl ac o gyngor arbenigol bod y cyfnod hwn wedi bod yn anodd i lawer, yn enwedig yng nghyd-destun straen seicolegol ac gorfod bod ar bwahan oddi wrth teulu a ffrindiau.
Ond dywedodd hefyd bod angen ystyried cyflymder newidiadau, a galwodd am fwy o rybudd i ganiatáu “blaengynllunio”:
“Er fy mod yn cytuno bod llacio mesurau ble fo’n ddiogel er budd iechyd meddwl a lles yn angenrheidiol ac yn ddatblygiad cadarnhaol, byddwn yn annog Llywodraeth Cymru i barhau i ystyried faint, a pha mor gyflym y gellir codi mesurau yn ddiogel.
“Rwyf hefyd yn credu bod angen i Lywodraeth Cymru roi mwy o rybudd ar gyfer cynlluniau ar leddfu cyfyngiadau, i’r cyhoedd ac i fusnesau, er mwyn galluogi blaengynllunio pellach a rheoli disgwyliadau. Byddai deall y llwybr tuag at godi’r cloi y mae Llywodraeth Cymru yn ei ragweld yn hynod fuddiol i lawer.”
Manylion y trefniadau
Mae manylion y trefniadau newydd, a allai ddod i rym ar Orffennaf 6, fel a ganlyn:
- Dim ond i un cartref estynedig fydd pobl yn cael perthyn.
- Rhaid i bawb sy’n ymuno berthyn i’r ddau gartref, gan ffurfio’r cartref estynedig.
- Rhaid i’r cartref estynedig gynnwys yr un unigolion am y dyfodol rhagweladwy.
- Os bydd un aelod o gartref estynedig yn datblygu symptomau’r coronafeirws, bydd rhaid i’r cartref estynedig cyfan hunanynysu, nid dim ond y rhai sy’n byw o dan yr un to.
- Bydd yn bwysig i’r cartref estynedig gadw cofnodion i helpu gydag olrhain cysylltiadau os bydd rhywun yn y cartrefi estynedig yn profi’n bositif am y coronafeirws.