Wrth i rai disgyblion yng Nghymru ddychwelyd i’r ysgol heddiw (Mehefin 29) mae Cymdeithas yr Iaith yn dweud bod argyfwng Covid-19 wedi dangos fod angen mwy o le i addysgu plant, yn lle’r arfer o gau ysgolion gwledig.
Yn ôl Ffred Ffransis, llefarydd y mudiad iaith, mae angen “ystyriaeth frys” i ailagor nifer o safleoedd ysgolion gwledig, nid trafod eu cau nhw.
“Nid yn unig fod argyfwng Covid-19 wedi dangos na fydd, am y dyfodol gweladwy, yn addas i gau ysgolion pentref, ac anfon llawer o blant ar fysus i ysgolion mawr canolog, ond y bydd angen ystyriaeth frys i ailagor nifer o safleoedd ysgolion gwledig.
“Bydd cost ynghlwm wrth hyn yn sicr, ond bydd pob cam i ddiogelu ysgolion er mwyn y plant yn golygu buddsoddiad. Fel hyn, cawn fuddsoddi yn ein cymunedau hefyd.”
‘Rhoi heibio’r dadlau’
Ni fydd ysgolion Ynys Môn yn ail agor heddiw fel gweddill y wlad gan fod cynnydd wedi bod yn yr achosion lleol o’r coronafeirws.
Ond yn Nyffryn Teifi, mae swyddogion Neuadd yr Ysgol Llanfihangel-ar-arth wedi cynnig yr ysgol a gafodd ei chau yn 2003, at ddefnydd yr Ysgol Ardal ym Mhencader er mwyn addysgu plant y fro o dan yr amodau newydd, meddai Cymdeithas yr Iaith.
“Mae ein cydymdeimlad gyda thrigolion Ynys Môn yn eu pryderon o’r newydd, a chydag arweinwyr y Cyngor wrth iddyn nhw wynebu’r argyfwng,” ychwanegodd Ffred Ffransis.
“Fe ddaw amser yn fuan i roi heibio’r dadlau am ddyfodol ysgolion, ac i sicrhau cytundeb.
“Gellid symud ymlaen yn fuan yn awr yn ardal Llangefni i roi sicrwydd i ysgolion Talwrn a Bodffordd, a’r un pryd adeiladu ysgol newydd gyda digon o ofod i ddisgyblion Ysgol Corn Hir Llangefni.”