Mae grŵp trawsbleidiol wedi cael ei ffurfio gan y Prif Weinidog, Mark Drakeford er mwyn trafod effaith Covid-19 ar Etholiadau’r Senedd y flwyddyn nesaf.

Bydd Grŵp Cynllunio Etholiadau Llywodraeth Cymru yn cyfarfod yn fisol, ac mae cynrychiolwyr o’r Blaid Lafur, Ceidwadwyr Cymru, Plaid Cymru, Plaid Brexit a’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi eu gwahodd i gymryd rhan.

Ar hyn o bryd, mae disgwyl i’r etholiadau gael eu cynnal ar Fai 6, 2021.

Mae Mark Drakeford wedi ffurfio’r grŵp trawsbleidiol er mwyn trafod sut gallai cyfyngiadau fel ymbellhau cymdeithasol sydd mewn lle er mwyn lleihau ymlediad y coronafeirws amharu ar “drefniadau ymarferol” ymgyrchu a phleidleisio.

Coronafeirws “wedi newid popeth”

Mae’r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, eisoes wedi dweud does “dim sicrwydd” y bydd etholiadau’r Senedd yn cael eu cynnal fis Mai y flwyddyn nesaf, gan fod y coronafeirws “wedi newid popeth”.

Er hyn does dim cyfeiriad at oedi posibl yng nghyfarwyddiadau’r Grŵp Cynllunio Etholiadau Llywodraeth Cymru.

Dywed y cyfarwyddiadau: “Y nod yw cynyddu cyfranogiad democrataidd gan hefyd warchod iechyd y cyhoedd.

“Mae’r prif weinidog wedi gofyn am gyngor ar y trefniadau ymarferol a allai fod yn angenrheidiol pe bai angen cyfyngiadau’r pandemig fel ymbellhau cymdeithasol yn 2021.

“Mae Llywodraeth Cymru eisiau clywed barn y rhai a fyddai’n cymryd rhan mewn ymgyrchoedd etholiadol a’r rhai sy’n ymwneud â gweinyddu’r etholiadau er mwyn gwneud penderfyniadau gan wybod y goblygiadau i’r bobl yr effeithir arnynt fwyaf uniongyrchol.”

Rhai o’r pethau mae disgwyl i’r Grŵp Cynllunio Etholiadau Llywodraeth Cymru drafod:

  • Heriau sydd yn wynebu ymgyrchoedd gwleidyddol os yw mesurau Covid-19 yn dal i fod mewn lle.
  • Pa drefniadau fydd angen bod mewn lle mewn gorsafoedd pleidleisio – pa mor addas yw’r gorsafoedd pleidleisio pe bai mesurau ymbellhau cymdeithasol yn dal i fod mewn lle.
  • Cynnydd posibl yn y nifer o bleidleisiau post.
  • Sut mae cynnal dau bôl piniwn ar yr un diwrnod.
  • Costau uwch oherwydd hyfforddiant ychwanegol ar sut i weinyddu etholiadau.
  • Profiad pleidleisio i bleidleiswyr newydd – Fe fydd pobol 16 ac 17 yn pleidleisio am y tro cyntaf.
  • Sut bydd mesurau ymbellhau cymdeithasol Covid-19 yn effeithio ar gyfri pleidleisiau.

Mae disgwyl i’r cyfarfod cyntaf gael ei gynnal dydd Mawrth (Mehefin 30) gyda’r nod o gasglu “barn dros yr haf fel y gellir ystyried a bwrw ymlaen ag unrhyw newidiadau erbyn mis Medi”.