Mae’r pandemig coronafeirws wedi bod yn “hunllef” ac yn “drychineb” i’r Deyrnas Unedig, meddai Boris Johnson.

Dywedodd y Prif Weinidog wrth Times Radio ei fod am roi cynllun mewn lle i adfer yr economi at y dyfodol yn dilyn y pandemig.

“Mae hyn wedi bod yn drychineb, gadewch i ni beidio osgoi’r gwir, mae hyn wedi bod yn hunllef lwyr i’r wlad,” meddai.

“Mae’r wlad wedi mynd trwy sioc ofnadwy. Ond yn y cyfnodau hynny cewch gyfle i newid ac i wneud pethau’n well.”

Dim yr amser i ‘gamu’n ôl’

Yn ôl Boris Johnson, mae eisiau “adeiladu’n ôl yn well, i wneud pethau’n wahanol, i fuddsoddi mewn seilwaith, trafnidiaeth, band eang, ” ond gan ychwanegu fod “dyddiau caled o’n blaenau” a bod pobl Prydain yn gwybod hynny yn y bôn.

Nid nawr yw’r amser i “gamu’n ôl” o gefnogi’r economi meddai’r Prif Weinidog, gan ychwanegu: “Bydd y Llywodraeth yn parhau i ymgysylltu â phobl, gyda busnesau ac yn helpu pawb i fynd drwy hyn.

“Roedd yn rhaid i ni gefnogi economi’r Deyrnas Unedig, roedd yn rhaid i ni wneud cynllun cadw swyddi coronafeirws, cynllun ffyrlo, pob math o fenthyciadau anhygoel, allwn ni ddim camu’n ôl nawr.”

Dywedodd Boris Johnson hefyd fod ymdrech economaidd, fel yr un gafodd ei gyflwyno gan gyn-Arlywydd yr Unol Daleithiau, Franklin D Roosevelt, yn ei fargen newydd wedi’r dirwasgiad mawr, bellach yn angenrheidiol.

Cadw dan reolaeth

Roedd y Prif Weinidog yn cydnabod ei fod wedi bod yn “lwcus iawn” wrth wella o’r coronafeirws a dywedodd fod y profiad wedi rhoi iddo “gariad ac edmygedd dyfnach fyth o’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a phopeth maen nhw’n ei wneud”.

Ond dywedodd ei fod yn poeni am farwolaethau coronafeirws a chyfraddau’r heintiau bob dydd, gan ychwanegu ei bod yn hanfodol bod yn barod i gael rheolaeth dynn ar unrhyw gynnydd mewn achosion.

Daw sylwadau Boris Johnson ar ôl i Gaerlŷr gofnodi 866 o achosion newydd o’r coronafeirws yn ystod y pythefnos diwethaf – gan arwain at awgrymiadau dros y penwythnos y gallai cyfyngiadau penodol gael eu cyflwyno yn y ddinas.