Bydd maer Caerlŷr a swyddogion y Llywodraeth yn cynnal trafodaethau heddiw (Dydd Llun, Mehefin 29) ynglŷn â sut i ymdopi gyda chynnydd yn nifer yr achosion o’r coronafeirws yn y ddinas.

Fe fyddan nhw’n ystyried cyflwyno cyfyngiadau penodol ar gyfer Caerlŷr.

Bydd maer y ddinas Syr Peter Soulsby a Chyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus y Cyngor, Ivan Browne yn rhan o’r trafodaethau ar ôl cynnydd lleol mewn achosion Covid-19 yn ystod yr wythnosau diwethaf.

Yn ôl data Iechyd Cyhoeddus Lloegr, cadarnhawyd bron i 3,000 o achosion Covid-19 yng Nghaerlŷr ers dechrau’r epidemig coronafeirws ac o’r rhain, cafodd 866 o achosion eu cofnodi yn ystod y pythefnos diwethaf.

Dywedodd Syr Peter Soulsby mai dim ond ddydd Iau, Mehefin 25 y darparwyd gwybodaeth brofi fanwl i’r Cyngor am y tro cyntaf, wythnos ar ôl i’r Ysgrifennydd Iechyd, Matt Hancock, gyhoeddi bod nifer o achosion yn y ddinas.

Llacio cyfyngiadau

Daw hyn wrth i gyfyngiadau gael eu llacio mewn mannau eraill yng ngwledydd Prydain, gyda pharciau a siopau ac ardaloedd awyr agored yn gallu ailagor yn yr Alban, ac ysgolion yng Nghymru yn croesawu mwy o ddisgyblion yn ôl i’r dosbarth.

Oherwydd y cynnydd, mae adroddiadau fod posibilrwydd y bydd cyfyngiadau penodol yn cael eu cyflwyno yng Nghaerlŷr, y tro cyntaf i hyn ddigwydd yn y Deyrnas Unedig ers dechrau’r pandemig, ac mae’r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol (DHSC) hefyd yn cydnabod bod y ddinas yn destun pryder ac yn annog y trigolion i fod yn wyliadwrus.

Angen bod yn ‘synhwyrol’

Daeth y ffocws ar ddyfodol Caerlŷr wrth i wyddonydd blaenllaw rybuddio’r wlad i fod yn wyliadwrus wrth i’r cyfyngiadau gael eu llacio ymhellach dros y misoedd nesaf, gan ddweud ein bod ar “ffin denau iawn” yng nghyd-destun y feirws.

Dywedodd Syr Jeremy Farrar, Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Wellcome, ei fod yn poeni am gynnydd sydyn bosibl mewn heintiau wrth i’r wlad baratoi i ailagor tafarndai, bwytai a siopau trin gwallt o Orffennaf 4.

Wrth siarad ar sioe Andrew Marr y BBC, rhybuddiodd am bosibilrwydd o gynnydd “cas iawn” mewn achosion o coronafeirws  yn y gaeaf os na fydd gwledydd Prydain yn defnyddio’r misoedd nesaf yn “synhwyrol”.