Mae dau swyddog diogelwch a phlismon wedi cael eu saethu’n farw gan ddynion arfog oedd wedi ymosod ar y gyfnewidfa stoc yn ninas Karachi ym Mhacistan heddiw (Dydd Llun, Mehefin 29), meddai’r heddlu.
Yn ôl swyddog yr heddlu ar y safle, Rizwan Ahmend, roedd y dynion arfog wedi dechrau tanio gynau wrth fynedfa’r gyfnewidfa stoc bore ma.
Nid yw’n glir ar hyn o bryd faint o ddynion arfog oedd yn rhan o’r ymosodiad ond mae lle i gredu eu bod nhw wedi cael eu saethu’n farw gan swyddogion arfog.
Mae’n debyg bod o leiaf tri o bobl wedi cael eu lladd yn yr ymosodiad.
Roedd swyddogion arfog wedi amgylchynu’r adeilad yn ardal ariannol y ddinas, ynghyd ag arbenigwyr difa bomiau.
Nid oes unrhyw grŵp wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiad hyd yn hyn.