Fe fydd rhai disgyblion yng Nghymru yn dechrau dychwelyd i’r ysgol heddiw (Mehefin 29) am y tro cyntaf ers mis Mawrth.
Dim ond grwpiau bach fydd yn cael dychwelyd ar y tro dros y tair neu bedair wythnos nesaf.
Yn ôl Llywodraeth Cymru fe fydd yn rhoi cyfle iddyn nhw gael cysylltu gyda’u hathrawon a pharatoi ar gyfer mis Medi pan mae disgwyl i’r dosbarthiadau ddychwelyd i’r ysgol.
Roedd ysgolion yng Nghymru wedi cau ar Fawrth 20 yn sgil y coronafeirws.
Pan fydd rhai disgyblion yn dychwelyd heddiw fe fyddan nhw’n cael eu dysgu mewn grwpiau bach gyda choridorau unffordd a bydd pwyslais ar gadw pellter a glendid.
Mae rhieni yn cael dewis os ydyn nhw eisiau anfon eu plant yn ôl i’r ysgol cyn yr haf.
Gwrthdaro
Fe gyhoeddodd y Gweinidog Addysg Kirsty Williams ar Fehefin 3 bod ysgolion yng Nghymru yn ail-agor, ond mae’r penderfyniad wedi arwain at ansicrwydd a gwrthdaro gydag undebau.
Y bwriad oedd agor ysgolion am bedair wythnos cyn gwyliau’r haf gan ymestyn y tymor o wythnos hyd at Orffennaf 24.
Ond mae’r rhan fwyaf o awdurdodau lleol wedi dweud na fydd yr ysgolion yn aros ar agor am wythnos ychwanegol. Dewis sydd wedi ei wneud gan nad ydy Llywodraeth Cymru a’r undebau llafur wedi gallu dod i gytundeb.