Mae dyn 19 oed wedi cael ei gyhuddo o ddifrod troseddol yn ystod dathliadau tîm pêl-droed Lerpwl yn y ddinas ar ôl iddyn nhw ennill tlws Uwch Gynghrair Lloegr.
Mae Matthew Egglesden o Scarisbrick yn Swydd Gaerhirfryn hefyd wedi’i gyhuddo o daflu tân gwyllt at adeilad y Liver.
Bydd yn mynd gerbron ynadon y ddinas yfory (dydd Llun, Mehefin 29).
Cafodd gwerth £10,000 o ddifrod ei achosi i’r adeilad adnabyddus ar ôl i’r tân gwyllt lanio ar falconi nos Wener (Mehefin 26).
Roedd miloedd o gefnogwyr y tîm pêl-droed wedi dod ynghyd am ail noson o ddathliadau.
Bu’n rhaid i’r heddlu geisio tawelu’r dorf wrth iddyn nhw daflu poteli a gwydrau atyn nhw yn oriau man y bore.
Cafodd dau blismon eu hanafu wrth geisio helpu dyn 32 oed oedd wedi cael anafiadau difrifol i’w ben yn ystod ymosodiad.
Cafodd Craig Campbell o Kirkdale ei gyhuddo o achosi niwed corfforol difrifol yn dilyn yr ymosodiad, a bydd e hefyd yn mynd gerbron ynadon yfory.
Mae 15 o bobol eraill wedi’u rhyddhau ar fechnïaeth ar ôl cael eu cyhuddo o droseddau megis ymddwyn yn groes i’r drefn gyhoeddus, ffrwgwd a bod yn feddw mewn lle cyhoeddus.
Mae’r heddlu, cyngor y ddinas a Chlwb Pêl-droed wedi beirniadu’r hyn sydd wedi digwydd dros y dyddiau diwethaf.