Mae Eamon Ryan, arweinydd Plaid Werdd Iwerddon, wedi cadarnhau y bydd ras arweinyddol y blaid yn cael ei chynnal o fewn y mis.

Mae ei ddirprwy Catherine Martin yn ei herio am yr arweinyddiaeth ar ôl i’r llywodraeth glymblaid ddod i gytundeb ar ddyfodol llywodraethu’r wlad.

Ond mae’r arweinydd presennol yn dweud bod y ddau yn dal i ystyried y llywodraeth yn flaenoriaeth.

“Fe fydd yna gystadleuaeth ond fe wnaethon ni’n dau gytuno na ddylen ni meddwl amdani tan ar ôl i’r llywodraeth gael ei ffurfio,” meddai Eamon Ryan wrth RTE.

“Hyd yn oed yn y mis nesaf pan fydd y gystadleuaeth honno’n digwydd, mae gan y ddau ohonom ddealltwriaeth glir mai ein prif waith yw gwneud ein swyddi yn y llywodraeth.

“Rhaid i ni fynd i mewn i’n hadrannau, mynd i’r afael â’n briff a chael ein cyfarfod Cabinet cyntaf ddydd Llun.”

Ar y we

Eglurodd Eamon Ryan y bydd y ras yn cael ei chynnal ar y we fel nad oes angen i’r naill ymgeisydd na’r llall deithio o amgylch y wlad yn ystod ymlediad y coronafeirws.

Ac mae’n dweud nad yw’n teimlo y bydd y ras yn hollti’r blaid, ac y byddai’n gymorth iddyn nhw “nid yn unig fel plaid ond fel gwlad ac o fewn y llywodraeth”.

Yn y cyfamser, mae wedi amddiffyn y diffyg amrywiaeth honedig yng nghabinet Llywodraeth Iwerddon.

Mae rhai wedi beirniadu diffyg cynrychiolaeth ar gyfer rhai ardaloedd, gydag eraill yn dweud nad oes digon o fenywod yn y Cabinet.

“Dw i ddim yn meddwl y gall y llywodraeth anwybyddu unrhyw ran o’r wlad, boed yn y de, y dwyrain, y gorllewin nac unrhyw ran arall,” meddai.

“Mae’n anodd cael cydbwysedd rhanbarthol pan fo gyda chi dair plaid wahanol felly dydych chi ddim yn dewis ar gyfer cabinet llawn wrth wneud eich dewisiadau.

“Roedd pob un o’r arweinwyr yn glir o ran yr angen am gydbwysedd o ran rhywedd a rhanbarth, ac mae’n bosib nad yw’n berffaith.”