Mae rhedwr a chyn-brifathro 70 oed, sy’n adnabyddus yn Aberystwyth, wedi diolch i drigolion y dref am eu haelioni, ar ôl iddo redeg mwy na 1,000 o filltiroedd i godi arian at Ysbyty Bronglais.

Fe osododd Dic Evans y nod iddo’i hun o godi £1,000 – ond mae wedi codi dros chwe gwaith hynny eisoes.

Daeth yr her i ben yn llwyddiannus nos Wener (Mehefin 26), ychydig ddiwrnodau cyn y targed o 100 diwrnod.

Nos Wener, ymunodd rhai o aelodau ei grŵp rhedeg â Dic er mwyn cadw cwmni iddo, gan gadw pellter, yn ystod ei ychydig filltiroedd olaf cyn cyrraedd y llinell derfyn ger y Bandstand ar y prom.

Rhedwr profiadol

Ac yntau’n rhedwr profiadol, mae’n rhedeg bob dydd ers dros 40 o flynyddoedd, ac mae wedi llwyddo, yn 73 oed, i redeg y math o bellter y byddai’n ei redeg yn rhedwr ifanc cystadleuol wrth baratoi ar gyfer marathon.

A daw ei lwyddiant er iddo ddioddef anaf rai misoedd yn ôl, ond mae’n dal i hyfforddi grŵp rhedeg lleol o’i wirfodd, ac mae’n gyfrifol am gynnal rasys lleol er mwyn codi arian at achosion lleol.

Y prif ddigwyddiad blynyddol mae’n ymwneud â fe yw Sialens y Barcud Coch, diwrnod o rasio llwybrau yn ardal Pontarfynach, gan gynnwys pencampwriaethau Cymru a Gorllewin Cymru ar gyfer rhedwyr ieuenctid ac oedolion.

Ymhlith yr achosion sydd wedi elwa ar hyd y blynyddoedd mae Ysbyty Bronglais ac roedd perygl y byddai uned cemotherapi’r ysbyty yn colli allan eleni yn sgil y coronafeirws gyda’r digwyddiad ym mis Mai wedi’i ohirio.

“Ro’n i’n gweld y byddai’r ysbyty’n colli mas ar yr arian mae Sialens y Barcud Coch yn codi, felly isie gwneud beth allen i,” meddai wrth drafod yr her â Bro360.

“Mae pobl wedi bod yn hael iawn…mae arian wedi dod o America, mae arian wedi dod o Ffrainc, ac mae arian wedi dod o Ganada a sawl lle arall.”

Rhedwr enwocaf Aber yn cwblhau ei her 1,000 o filltiroedd

Owain Schiavone

Dic ‘Rhedwr’ Evans wedi codi dros £6000 tuag at ward chemo Ysbyty Bronglais