Heb griced sirol tan o leiaf Awst 1, mae golwg360 wedi bod yn edrych yn ôl ar rai o gemau Morgannwg o’r gorffennol.
Byddai Morgannwg wedi bod yn croesawu Durham i San Helen yn Abertawe yr wythnos hon pe bai’r tymor criced wedi gallu cael ei gynnal. Mwy am y gêm yn y man, ond fyddai’r un erthygl am gae San Helen yn gyflawn heb drafod cyfraniad criw o gefnogwyr selog ac un unigolyn yn enwedig.
Fe fu cwestiynau ers rhai blynyddoedd am ddyfodol y cae sy’n cael ei ystyried yn gartref ysbrydol y sir, er bod y rhan fwyaf o’u gemau bellach yn cael eu cynnal yng Ngerddi Sophia yng Nghaerdydd.
Mae’r diolch mwyaf am gadw criced yn y de-orllewin ac yn Abertawe yn mynd i Orielwyr San Helen a’u cadeirydd diflino John Williams, Cymro Cymraeg sy’n hanu o Geredigion ond yn byw “ergyd chwech Viv Richards” o’r cae yn Sgeti, ac un o sylfaenwyr y clwb cefnogwyr yn 1972.
Daeth y criw at ei gilydd fel ffordd o gydnabod partneriaeth o 330 rhwng Alan Jones a Roy Fredericks yn y gêm Bencampwriaeth yn erbyn Swydd Northampton y flwyddyn honno ond fe ddaeth erbyn hyn yn gymaint mwy na hynny i genedlaethau o gefnogwyr criced yn y de-orllewin.
Mae’r Orielwyr yn ymgorfforiad o ddyhead pobol Abertawe a’r gorllewin i gynnal criced yn y parthau hynny, wrth i fwy o bwyslais gael ei roi ar gynnal gemau rhyngwladol yng Nghaerdydd.
Er gwaetha’r newyddion na fyddai criced yn cael ei gynnal y tu allan i Gaerdydd pe byddai modd ailddechrau’r tymor ar ôl Awst 1, dywed Clwb Criced Morgannwg eu bod nhw’n ymrwymo i fynd â gemau ar hyd a lled y wlad “pan fydd yn ddiogel”, a hynny’n rhan o’u harwyddair o “Wneud Cymru’n Falch”.
Pan ddaw’r Orielwyr ynghyd bob blwyddyn, maen nhw’n cyfrannu at ymgyrch lawer ehangach i sicrhau bod gemau criced yn ymweld â chaeau allanol y tu allan i’r llefydd traddodiadol, ac maen nhw hefyd yn gwasanaethu cymunedau Cymraeg a Chymreig y tu hwnt i’r brifddinas.
Fis Medi’r llynedd, cafodd wynebau dau o frodorion y fro eu paentio ar wal allanol San Helen ar Heol y Mwmbwls, yn gydnabyddiaeth barhaus o gyfraniad hirdymor a sylweddol Alan Jones o Felindre a’r diweddar Don Shepherd o Borteinon ym Mhenrhyn Gŵyr i’r clwb. Mae’r naill wedi olynu’r llall yn Llywydd yr Orielwyr ers 2017.
Gemau a digwyddiadau hanesyddol
Fel y mae John Williams bob amser yn awyddus i’w bwysleisio, mae gan San Helen ran bwysig yn holl lwyddiannau Morgannwg ar hyd y blynyddoedd.
Ynghyd â buddugoliaethau tîm rygbi’r ddinas dros Awstralia, Seland Newydd a De Affrica, mae buddugoliaethau Morgannwg dros Awstralia yn 1964 a 1968 wedi’u cydnabod ers rhai blynyddoedd gyda phlac glas ar un o waliau allanol y cae.
Durham oedd yr ymwelwyr yn 2017 pan gipiodd Morgannwg fuddugoliaeth hwyr ac annisgwyl ym mhelawd ola’r gêm pedwar diwrnod.
Tarodd Nick Selman gyfanswm o 14 rhediad oddi ar belawd ola’r ornest – gan gynnwys dau chwech – i orffen heb fod allan ar 116. Dyma’r tro cyntaf iddo daro chwech yn ei yrfa dosbarth cyntaf.
Roedden nhw’n cwrso nod sylweddol o 266 mewn 51 o belawdau ar y diwrnod olaf, a hynny ar ôl i Paul Collingwood, capten yr ymwelwyr, gau’r batiad pan oedd e heb fod allan ar 92 ac ar ei ffordd tuag at ei ail ganred yn y gêm.
Tarodd Graham Clark 72, ei sgôr gorau erioed, yn gynharach yn y batiad i Durham.
Erbyn amser te ar y diwrnod olaf, roedd Morgannwg yn 37 am un ac yn ymblwybro tuag at gêm gyfartal, ond tarodd y batiwr lleol Aneurin Donald 28 oddi ar 17 o belenni cyn i Colin Ingram sgorio 42 oddi ar 31 a Chris Cooke 31 oddi ar 20 o belenni.
Achlysuron fel yr un hwnnw, ynghanol ansicrwydd y tymor sirol presennol a heriau’r coronafeirws, sy’n atgoffa pobol fod rhaid gwneud popeth pan ddaw’r amser er mwyn cadw criced yn Abertawe yn y tymor hir.