116 heb fod allan i'r batiwr ifanc yn Abertawe
Mae Nick Selman wedi taro 116 heb fod allan i sicrhau buddugoliaeth gyntaf Morgannwg yn y Bencampwriaeth y tymor hwn, wrth iddyn nhw drechu Swydd Durham o dair wiced mewn gêm hynod gyffrous ar gae San Helen yn Abertawe.

Y diwrnod cyntaf

Roedd yn ben-blwydd i’w gofio i gaptan Swydd Durham ddydd Gwener wrth i’r chwaraewr amryddawn 41 oed daro 127 oddi ar 174 o belenni i achub ei dîm ar y diwrnod cyntaf. Roedd ei ymdrechion yn golygu bod yr ymwelwyr wedi gallu cyrraedd 342 yn eu batiad cyntaf erbyn diwedd y dydd.

Roedden nhw wedi bod mewn trafferthion ar un adeg wrth i gapten newydd Morgannwg, Michael Hogan gipio tair wiced mewn pedair pelen – a phedair wiced mewn saith pelen – i orffen y batiad gyda ffigurau o bum wiced am 49. Roedd yr ymwelwyr wedi bod yn 17-2 o fewn wyth pelawd cynta’r gêm.

Ond fe achubodd Graham Clark (48) a Cameron Steel (59) y Saeson gyda phartneriaeth o 86 am y drydedd wiced, cyn i Clark gael ei ddal gan Nick Selman yn gampus yn y slip, a’r sgôr yn 103-3 ar ôl cinio.

Ychwanegodd Steel a’r capten Paul Collingwood 60 at y cyfanswm am y bedwaredd wiced, ond fe ddaeth pumed wiced o fewn dim o dro a’r Saeson yn 169-5.

Roedd partneriaeth sylweddol arall i ddilyn, gyda Collingwood a Paul Coughlin yn ychwanegu 91 am y chweched wiced i gyrraedd 260-6. Ond collodd yr ymwelwyr eu tair wiced olaf heb sgorio ar ôl i Coughlin a Poynter ychwanegu 82 am y seithfed wiced.

Yr ail ddiwrnod

Ar ôl colli sesiwn gyfan ar yr ail fore oherwydd glaw a golau gwael, brwydrodd Morgannwg i gyrraedd 225-6, 117 o rediadau y tu ôl i gyfanswm batiad cyntaf Swydd Durham.

Ar ôl cinio, daeth batwyr agoriadol Morgannwg, Jacques Rudolph a Nick Selman i’r llain ac ymosod o’r dechrau’n deg gan daro 23 rhediad oddi ar y tair pelawd cyntaf. Ond method yr Awstraliad Selman ag ailadrodd y canred a gafodd yn erbyn Swydd Northampton ar gae San Helen y llynedd, wrth iddo gario’i fat ar ei ffordd i 122 – y chwaraewr cyntaf i wneud hynny ers Matthew Elliott yn 2004.

Daeth Colin Ingram i’r llain a tharo 18 – ac roedd e 21 rhediad yn brin o 1,000 o rediadau dosbarth cyntaf am y tymor, a Morgannwg yn 76-3.

Daeth sefydlogrwydd i’r batiad gydag Aneurin Donald (51) a Will Bragg wrth y llain ond pan aeth Bragg yn ôl i’r pafiliwn, roedd Morgannwg mewn trafferth unwaith eto yn 92-4.

Ychwanegodd Donald a Bragg 42 wrth i Forgannwg gyrraedd 167-6, ac fe ychwanegodd Andrew Salter a Chris Cooke 58 at y cyfanswm wrth i Forgannwg orffen y diwrnod ar 225-6.

Y trydydd diwrnod

Dechreuodd Morgannwg y trydydd diwrnod ar ei hôl hi o 147 o rediadau ac roedd canlyn ymlaen yn edrych yn debygol iawn cyn i Andrew Salter daro 75 – ei gyfanswm dosbarth cyntaf gorau erioed.

Collodd Morgannwg wiced Chris Cooke yn gynnar yn y dydd, a hynny ar ôl i wicedwr yr ymwelwyr, Stuart Poynter ddatgymalu a thorri ei fys – cyn parhau i gadw wiced!

Roedd peth clatsio i ddod gan fatwyr llai cydnabyddedig Morgannwg, ac fe ychwanegodd Marchant de Lange ac Andrew Salter 45 am yr wythfed wiced,  a phan gollodd Andrew Salter ei wiced, roedd y Cymry’n 353 i gyd allan, gyda mantais batiad cyntaf o 11.

Dechreuodd ail fatiad Swydd Durham ar ôl cinio ac fe gollon nhw eu dwy wiced gyntaf am 35. Ychwanegodd Keaton Jennings a Graham Clark 40 am y drydedd wiced ar ôl i Clark fod yn lwcus i aros wrth y llain – Marchant de Lange, y bowliwr, yn gollwng y daliad symlaf.

Cyrhaeddodd Graham Clark ei hanner canred ar ôl te cyn i’r golau gwael orfodi’r chwaraewyr oddi ar y cae am 5.18pm, a’r ymwelwyr yn 158-3.

Y pedwerydd diwrnod

Ychwanegodd yr ymwelwyr 118 o rediadau yn sesiwn gynta’r diwrnod olaf wrth i Paul Collingwood ymlwybro tua 92 heb fod allan erbyn yr egwyl, gan obeithio bod y chwaraewr cyntaf erioed yn hanes y sir i daro canred yn y ddau fatiad yn yr un gêm ar ddau achlysur gwahanol.

Ychwanegodd y capten a Graham Clark 102 am y bedwaredd wiced, ac fe ychwanegodd Collingwood a Ryan Pringle 81 am y bumed wiced, wrth iddyn nhw gyrraedd 258-5. Collon nhw eu dwy wiced nesaf am chwe rhediad, ac roedden nhw’n 276-7 pan gaeodd y capten eu batiad, gan osod nod o 266 i Forgannwg i ennill.

A dechrau digon cadarn gafodd y Cymry wrth i Jacques Rudolph a Nick Selman ychwanegu 37 am y wiced gyntaf cyn i’r cyn-gapten ddychwelyd i’r pafiliwn. Roedden nhw’n 61-2 wrth i Andrew Salter golli ei wiced yntau, ac roedd e’n anhapus â phenderfyniad y dyfarnwr fod ei goes o flaen y wiced.

Aneurin Donald oedd y batiwr nesaf allan, wrth fynd am ergyd fawr i’r ochr agored, a chael ei ddal gan Stephen Cook wrth i George Harding gipio’i ail wiced yn ei gêm gyntaf. Daeth trydedd wiced iddo fe wrth fowlio David Lloyd, a Morgannwg yn 108-4.

Roedd llygedyn o obaith i Forgannwg wrth i Colin Ingram a Nick Selman ychwanegu 73 am y bumed wiced a fe aeth Ingram heibio 1,000 o rediadau dosbarth cyntaf y tymor hwn. Tarodd y batiwr o Dde Affrica 42 oddi ar 31 o belenni cyn colli ei wiced, a daeth Chris Cooke i’r llain gyda’r bwriad o glatsio hefyd.

Tarodd Chris Cooke 31 cyflym oddi ar 20 o belenni i osod y seiliau tua’r diwedd, ac roedd Nick Selman heb fod allan ar 116 ar ôl taro 12 pedwar a thri chwech oddi ar 129 o belenni.