Mae QPR wedi cyhoeddi eu bod wedi arwyddo ymosodwr Cymru, George Thomas, ar gytundeb tair blynedd.

Cafodd y chwaraewr 23 mlwydd oed ei ryddhau gan Gaerlŷr ar ddiwedd ei gytundeb – doedd heb wneud ymddangosiad i’r tîm cyntaf yn ei dair blynedd yn Stadiwm King Power.

Yn fwyaf diweddar roedd Thomas ar fenthyg yn ADO den Haag yn yr Iseldiroedd, a fe yw trosglwyddiad cyntaf QPR yr haf hwn.

Dywedodd Thomas, a ddechreuodd ei yrfa gyda Coventry City cyn symud i Gaerlŷr wrth qpr.co.uk:

“Dw i wrth fy modd bod hyn wedi’i wneud. Mae QPR yn glwb mawr ac alla i ddim aros i ddechrau arni.

“Dw i eisiau chwarae cymaint o gemau ag y galla’ i. Roedd gweld y bechgyn ifanc yn dod drwodd yma, yn cael gemau a gwella, yn bendant yn rhan o fy mhenderfyniad. Gobeithio y gallaf eu dilyn.”