Mae David Lloyd, chwaraewr amryddawn tîm criced Morgannwg, wedi torri ei droed wrth baratoi ar gyfer y tymor newydd ar Awst 1.

Mae’r sir wedi bod yn chwarae gemau paratoadol fel carfan, gyda Thlws Bob Willis, cystadleuaeth gemau pedwar diwrnod ranbarthol, ar y gorwel.

Daeth anaf y chwaraewr o Lanelwy wrth iddo faesu, ac fe fydd e’n derbyn triniaeth wrth geisio gwella o’r anaf dros yr wythnosau nesaf.

Dydy hi ddim yn glir ar hyn o bryd am ba hyd y bydd e allan.

Yn y cyfamser, mae’r bowliwr cyflym Timm van der Gugten wedi anafu ei ffêr wrth faesu.

Mae disgwyl i’r Iseldirwr ddychwelyd ymhen pythefnos.