Fe fydd tîm pêl-droed Caerdydd yn manteisio ar fod y gwannaf o’r ddau dîm, wrth iddyn nhw herio Fulham yng nghymal cyntaf rownd gyn-derfynol y gemau ail gyfle yn Stadiwm Dinas Caerdydd heno (nos Lun, Gorffennaf 27).
Byddan nhw’n gobeithio bod mewn sefyllfa gryf ar ddiwedd y cymal cyntaf, yn barod ar gyfer y daith i Craven Cottage nos Iau (Gorffennaf 30).
Roedd y Saeson yn ddi-guro yn y ddwy gêm gynghrair rhwng y ddau dîm y tymor hwn wrth gipio pedwar pwynt, gan gynnwys buddugoliaeth o 2-0 ddechrau’r mis yma.
Ond mae’r Adar Gleision wedi mynd o nerth i nerth o dan reolaeth Neil Harris, ac roedden nhw’n 14eg yn y Bencampwriaeth pan gafodd ei benodi’n olynydd i Neil Warnock fis Tachwedd.
Maen nhw’n ddi-guro mewn tair gêm, tra bod Fulham yn ddi-guro mewn saith, gan gynnwys pum buddugoliaeth wrth iddyn nhw orffen gydag 81 o bwyntiau, ddau bwynt yn unig y tu ôl i West Brom sydd wedi ennill dyrchafiad awtomatig.
Cawson nhw eu dyrchafu y tro diwethaf iddyn nhw gyrraedd y gemau ail gyfle yn 2018.
Roedd Caerdydd yn bumed yn y tabl y tymor hwn, gan sicrhau eu lle yn y gemau ail gyfle ar ddiwrnod ola’r tymor gyda 73 o bwyntiau, ac fe gollon nhw eu ffeinal ddiwethaf yn y gemau ail gyfle, wrth i Blackpool ennill dyrchafiad yn 2010.
Dydy Caerdydd ddim wedi chwarae yn Uwch Gynghrair Lloegr ers 2013-14.