Mae gan Abertawe fantais o un gôl ar ddiwedd cymal cyntaf eu gêm gyn-derfynol yn erbyn Brentford yng ngemau ail gyfle’r Bencampwriaeth.

Bu’n rhaid aros 82 o funudau cyn i’r Elyrch fynd ar y blaen, ac roedd hi’n gôl oedd yn werth aros amdani, wrth i Andre Ayew redeg i mewn o’r ystlys gan chwarae sawl pàs gelfydd a derbyn y bêl yn ôl a’i thanio hi at y gôl ar gyfer ei ddeunawfed gôl y tymor hwn.

Bydd y canlyniad yn siomi Brentford, oedd wedi pwyso ar yr Elyrch am gyfnodau sylweddol o’r gêm ac fe allen nhw fod wedi ildio funudau cyn iddyn nhw wneud, wrth i Ayew daro ergyd siomedig o’r smotyn at y golwr David Raya.

Roedd Brentford i lawr i ddeg dyn erbyn hynny, ar ôl i Rico Henry weld cerdyn coch am dacl wyllt ar Connor Roberts ar ôl 65 munud.

Dyma drydedd colled Brentford yn olynol, a bydd yr Elyrch yn teithio i Barc Griffin nos Fercher (Gorffennaf 29) yn llawn hyder.

‘Mantais ond yn fantais os defnyddiwn ni hi’

Er bod gan yr Elyrch fantais o un gôl cyn dechrau’r ail gymal, bydd hi “ond yn fantais os defnyddiwn ni hi”, yn ôl y rheolwr Steve Cooper.

“Mae hi’n fantais, wrth gwrs, gan fod gyda ni flaenoriaeth fach yn mynd i mewn i’r gêm,” meddai.

“Ond os ydych chi ar y blaen neu ar ei hôl hi o un gôl ar yr egwyl, dydych chi ddim yn meddwl ei bod hi ar ben.

“Dyna fydd ein meddylfryd ni.”

Canmol Andre Ayew

Er iddo fethu o’r smotyn, mae Steve Cooper yn cydnabod cyfraniad Andre Ayew, nid yn unig yn y gêm hon ond drwy gydol y tymor.

“Dw i’n credu mai’r hyn sy’n creu’r agraff fwyaf o ran ei gyfradd goliau yw, am dri chwarter y tymor a mwy, mae e wedi chwarae’n llydan,” meddai.

“Dyw e ddim wedi bod yn rhif nawr am y rhan fwyaf o’r gemau, felly gadewch i ni fod yn onest, cyn i Rhian ddod, fe oedd ein hunig obaith, ar wahân i’r chwarae gosod, o fod yn sgoriwr goliau cyson.

“Mae e wedi chwarae i’w allu a’i safon, a gobeithio y bydd hynny’n parhau nos Fercher hefyd.”

Yn ogystal â’i sgiliau, mae e hefyd wedi canmol ei gymeriad ar noson gymysg o flaen y gôl.

“Mae’n dangos meddylfryd o’r radd flaenaf i ddod yn ôl o drosiad siomedig o’r smotyn lle’r oeddech chi’n ei ffansïo fe.

“Roedd e’n cael effaith beth bynnag, ond mae cael yr effaith wnaeth e a sgorio’r gôl wnaeth e yn dweud popeth am ei feddylfryd.

“Doedden ni ddim wedi synnu ynghylch y ffordd wnaeth methu ei effeithio fe, fe allai fod wedi effeithio arno fe mewn unrhyw ffordd, ond roedd hi’n bositif.”