Bydd momentwm yn allweddol i dîm pêl-droed Abertawe wrth iddyn nhw geisio manteisio ar berfformiad cryf yn erbyn Reading ganol wythnos i sicrhau eu lle yng ngemau ail gyfle’r Bencampwriaeth.

Byddan nhw’n herio Brentford yn Stadiwm Liberty heno (6.30yh) yng nghymal cynta’r rownd gyn-derfynol, ddyddiau’n unig ar ôl cadarnhau eu lle mewn modd dramatig gyda buddugoliaeth swmpus o 4-1 dros Reading.

Yn hanesyddol, timau sy’n cryfhau tua diwedd tymor y gynghrair sy’n dueddol o lwyddo orau yn y gemau ail gyfle, a bydd tîm Steve Cooper yn gobeithio bod hynny’n wir y penwythnos hwn cyn teithio i Brentford ar gyfer yr ail gymal nos Fercher (Gorffennaf 29).

Diweddglo cyffrous

Roedd yr Elyrch yn unfed ar ddeg yn nhabl y Bencampwriaeth pan ddechreuodd y tymor eto yn dilyn oedi yn sgil y coronafeirws.

Bryd hynny, roedden nhw saith pwynt y tu ôl i Nottingham Forest, un o’u prif wrthwynebwyr yn y ras am y gemau ail gyfle.

Enillon nhw bedair allan o chwe gêm ola’r gynghrair i orffen yn y chweched safle.

Ond mae Brentford hefyd wedi perfformio’n gyson dros y gemau diwethaf, gan ennill saith o’r bron ar ôl cyfnod y feirws, gan ddod o fewn trwch blewyn i sicrhau dyrchafiad awtomatig wrth orffen yn drydydd.

Brentford, hefyd, enillodd y ddwy gêm yn erbyn Abertawe yn y gynghrair.

Ond mae gan yr Elyrch gryn brofiad yn y gemau ail gyfle, a dyma’r seithfed tro iddyn nhw fod yn rhan o benllanw’r tymor ers 1986.

Anafiadau a gwaharddiadau

Dydy hi ddim yn glir eto a fydd Wayne Routledge a Mike van der Hoorn yn holliach i chwarae ar ôl iddyn nhw gael eu hanafu ganol yr wythnos.

Mae Kyle Naughton wedi’i wahardd am dair gêm, sy’n golygu y bydd e ar gael ar gyfer yr ail gymal.

Mae George Byers, Freddie Woodman, Joe Rodon a Ben Wilmot i gyd allan ag anafiadau.

Gêm allweddol o’r gorffennol

Y tro diwethaf i Abertawe herio Brentford mewn gemau ail gyfle, roedd y ddau dîm yn yr Adran Gyntaf, a hynny yn 2006.

Roedden nhw’n gyfartal ar ôl y cymal cyntaf, ar ôl i’r Elyrch orffen yn chweched a Brentford yn drydydd.

Yr Elyrch enillodd yr ail gymal, a hynny o 2-0, gan ennill dyrchafiad i’r Bencampwriaeth.

Mae perfformiad yr Elyrch o flaen y gôl yn y gemau ers dechrau’r tymor eto yn galonogol, wrth iddyn nhw sicrhau’r gyfradd drosi orau yn y gynghrair, gan sgorio 16 gôl oddi ar 99 o ergydion, a dim ond Wigan sydd wedi gwneud yn well.

Dyma ddeunawfed gêm ail gyfle’r Elyrch erioed, ac maen nhw wedi colli pedair gwaith yn unig, unwaith ar ôl amser ychwanegol ac unwaith yn dilyn ciciau o’r smotyn.