Mae Clwb Pêl-droed Abertawe’n gofyn i bobol gadw draw o Stadiwm Liberty fory (dydd Sul, Gorffennaf 26), wrth iddyn nhw herio Brentford yng nghymal cyntaf rownd gyn-derfynol gemau ail gyfle’r Bencampwriaeth.
Wrth gyfeirio at ganllawiau Llywodraeth Cymru, dywed y clwb na ddylai pobol ymgasglu mewn grwpiau mawr mewn llefydd cyhoeddus fel tafarnau oni bai eu bod nhw’n cadw pellter cymdeithasol.
Mae penaethiaid y Gynghrair Bêl-droed yn annog cefnogwyr pob clwb i gadw draw o gaeau ac i wylio’r gemau ar y teledu neu’r we.
Bydd y gemau ail gyfle’n cael eu darlledu’n fyw ar Sky Sports, a fydd cefnogwyr ddim yn cael mynediad i Stadiwm Liberty nac unrhyw gae arall sy’n cynnal y gemau.
Bydd yr heddlu a stiwardiaid yn gwarchod y stadiwm yn ystod y gêm.
Anafiadau
Yn y cyfamser, mae amheuon am ffitrwydd dau o brif chwaraewyr Abertawe ar drothwy’r cymal cyntaf.
Yn ôl y rheolwr Steve Cooper, bydd yr amddiffynnwr canol Mike van der Hoorn a’r blaenwr ac asgellwr Wayne Routledge yn cael cymaint o amser â phosib i sicrhau eu bod nhw’n holliach cyn y gêm.
Cafodd Routledge ei anafu wrth sgorio pedwaredd gôl yr Elyrch yn y fuddugoliaeth dros Reading ganol yr wythnos.
Daeth Mike van der Hoorn oddi ar y cae ar yr egwyl ar ôl cael ergyd, ac mae’n dal i wella o anaf i’w benglin.
Bydd Kyle Naughton wedi’i wahardd ar gyfer y cymal cyntaf, ond bydd hawl ganddo fe chwarae yn yr ail gymal ganol nos Fercher (Gorffennaf 29).
Fydd y golwr Freddie Woodman na’r chwaraewr canol cae George Byers ddim ar gael i ddechrau fory.