Fe fydd tawelwch meddwl a chanolbwyntio’n allweddol i dîm pêl-droed Caerdydd wrth iddyn nhw herio Fulham yng nghymal cynta’r gemau ail gyfle nos Lun (Gorffennaf 27), yn ôl eu rheolwr Neil Harris.

Mae’n dweud y bydd wynebu Fulham dros ddau gymal yn “dasg anferthol”.

Gyda’r cymal cyntaf yn Stadiwm Dinas Caerdydd, mae ganddyn nhw gyfle i adeiladu mantais cyn gorfod teithio i Craven Cottage nos Iau (Gorffennaf 30).

“Byddwn ni’n gweld eisiau ein cefnogwyr yn y ddwy gêm gyn-derfynol, yn sicr,” meddai.

“Bydd personoliaeth a’r llais y gallwch chi ei glywed gan rai chwaraewyr yn allweddol eto.

“Dw i wedi siarad dipyn am dawelwch meddwl a chanolbwyntio.

“Un cam ar y tro, peidio â gorfeddwl am bethau neu roi pwysau ar fy chwaraewyr.

“Dw i eisiau iddyn nhw fwynhau a chofleidio’r achlysur a ddaw yn sgil y gemau ail gyfle.”

‘Gemau cwpan’

Yn ôl Neil Harris, fe fydd y gemau ail gyfle fel gemau cwpan.

“Dyna pam dw i’n eu mwynhau nhw gymaint,” meddai.

“Mae yna wahaniaeth fach heb gefnogwyr Caerdydd.

“Mae Fulham yn dasg anferthol i ni dros ddwy gêm, maen nhw’n dîm da iawn ac yn her wirioneddol.

“Rydyn ni’n chwarae’n dda yn unigol a gyda’n gilydd, ac mae gen i dipyn o ffydd.”

Mae’n dweud bod cyrraedd y gemau ail gyfle’n “dipyn o gamp” i’w dîm, a fydd yn herio Abertawe neu Brentford yn y rownd derfynol pe baen nhw’n llwyddo i drechu Fulham cyn hynny.

“Camp i gyrraedd y gemau ail gyfle? Ydw, dw i yn ei gweld hi fel camp i’r criw i’w cyrraedd nhw.

“Bu’n rhaid i ni weithio’n galed, fel clybiau eraill, yn ail hanner y tymor i wthio am y gemau ail gyfle.

“Mae dod yn bumed yn gamp, ond nid dyna’r nod derfynol i ni.

“Rydyn ni eisiau cyrraedd ffeinal y gemau ail gyfle a chael buddugoliaeth fel ein nod derfynol.”