Mae Steve Cooper, rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, yn dweud mai datblygiad criw mor ifanc o bêl-droedwyr yw’r “testun balchder mwyaf” wrth iddyn nhw “fyw yn yr eiliad” cyn cymal cynta’r gêm ail gyfle yn erbyn Brentford ddydd Sul (Gorffennaf 26).

Byddan nhw’n cystadlu dros ddau gymal am yr hawl i herio Caerdydd neu Fulham yn y gêm derfynol.

Mae’r Bencampwriaeth yn gynghrair sy’n adnabyddus am chwaraewyr profiadol ond mae’r Elyrch ben arall y sbectrwm oedran, gyda thri ohonyn nhw wedi bod yn aelodau o dîm Lloegr dan reolaeth y Cymro yng Nghwpan y Byd dan 17 oed yn 2017.

Dair blynedd yn ddiweddarach, mae’r amddiffynnwr Marc Guehi a’r ymosodwr Rhian Brewster, dau o’r sgorwyr yn y rownd derfynol, yn ogystal â’r chwaraewr canol cae Conor Gallagher yn paratoi ar gyfer uchafbwynt eu gyrfaoedd hyd yn hyn ar lefel y clybiau.

“Mae gyda ni’r ddau yna [Guehi a Brewster], ond rhaid hefyd sôn am Ben Cabango, Conor Gallagher a Freddie Woodman,” meddai Steve Cooper.

“Mae’r bois i gyd wedi gwneud yn dda iawn.

“Mae Jordon Garrick wedi torri trwodd, a dw i’n teimlo ’mod i’n gadael rhywun allan oherwydd mai cynifer o chwaraewyr ifanc gyda ni. Dyna sut rydyn ni am wneud pethau.

“Ond dyw hi ddim jyst yn fater o roi cyfle i chwaraewyr ifanc a chredu ynddyn nhw, ond ennill hefyd a bod yn llwyddiannus.

“Rhaid i chi gynllunio er mwyn cyflawni hynny, a dyna rydyn ni’n ei wneud.

“Doedd cynifer o’n chwaraewyr ni erioed wedi chwarae yn y Bencampwriaeth tan iddyn nhw chwarae i ni.

“Rydyn ni i gyd wedi gweld y Bencampwriaeth, mae’n llawn chwaraewyr profiadol a chwaraewyr sydd wedi gweld a gwneud popeth o’r blaen, ond dyw llawer o’n rhai ni ddim a dyna sy’n fy ngwneud i’n fwyaf balch wrth weld y tîm yn chwarae’n dda.

“Maen nhw’n herio timau, yn enwedig yn y gemau ail gyfle, sydd ymhell ar y blaen o ran profiad a sawl peth arall, filltiroedd ar y blaen.

“Ond rydyn ni’n byw a bod yn y funud, rydyn ni’n credu yn y chwaraewyr ac yn mynd amdani, a chawn ni weld lle’r awn ni.”

Tynnu ar brofiadau yng Nghwpan y Byd?

 Yn ôl Steve Cooper, gallai’r ffaith fod sawl aelod o’r garfan wedi ennill Cwpan y Byd gyda thîm dan 17 oed Lloegr, a’r ffaith ei fod e’n rheolwr arnyn nhw ar y pryd, fod o fantais wrth i’r tymor symud o’r gynghrair i’r gemau ail gyfle sy’n debycach i gystadleuaeth gwpan.

“Mae’n sicr yn wahanol yn mynd i mewn i gêm gyn-derfynol dros ddau gymal, ac mae’r cyd-destun yn wahanol hefyd,” meddai.

“Rydyn ni wedi trafod hynny gyda’r chwaraewyr.

“Fe allai fynd i amser ychwanegol neu giciau o’r smotyn, felly rhaid i ni ddarogan cymaint â phosib beth allai ddigwydd o ran y chwaraewyr.

“Ry’n ni’n gwybod ein bod ni’n mynd i mewn i rywbeth gwahanol.

“Dw i wedi bod ynghlwm wrth bêl-droed mewn twrnament o’r blaen, ond felly hefyd Thomas [Frank, rheolwr Brentford], felly does dim mantais mewn gwirionedd.

“Rhaid i ni drin y gêm yr un fath ag arfer a gobeithio y byddwn ni’n iawn.”

Chwaraewyr mwy profiadol – a’r cefnogwyr – yn allweddol hefyd

Ochr yn ochr â’r to iau, mae sawl chwaraewyr yn tynnu tua diwedd eu gyrfaoedd, gan gynnwys Wayne Routledge, sgoriwr dwy gôl yn y fuddugoliaeth dyngedfennol o 4-1 dros Reading nos Fercher (Gorffennaf 22) i sicrhau eu lle yn y gemau ail gyfle mewn modd mor ddramatig.

“Mae pawb yn siarad am y goliau a’r ffaith fod gyda ni arwr yn Wayne Routledge a’r pethau mae e’n gallu eu gwneud ond os edrychwch chi ar dacl Marc Guehi ac arbediad Erwin Mulder, maen nhw’r un mor bwysig,” meddai Steve Cooper.

“Mae’r bois hyn i gyd yn rhoi o’u gorau, yn credu yn yr hyn rydyn ni’n ei wneud a rhaid i ni barhau os gallwn ni.”

Er na fydd cefnogwyr yn cael bod yn y gemau, fe fyddan nhw’r un mor bwysig ag erioed, yn ôl y rheolwr.

“Unwaith rydych chi’n camu i mewn trwy ddrysau’r clwb, rydych chi’n sylweddoli mai bod gyda’n gilydd yw’r peth pwysicaf, boed ni’n chwaraewyr, yn staff hyfforddi, yn staff cynorthwyol, yn staff yn y stadiwm neu’n gefnogwyr,” meddai.

“Does dim hierarchiaeth yn y clwb pêl-droed hwn, ac mae Trevor Birch [y cadeirydd] yn arwain y ffordd yn y ffordd mae e’n rhedeg y clwb pêl-droed, a dw i’n ceisio gwneud yr un fath o safbwynt y chwaraewyr hefyd.

“Clwb cymunedol yw hwn ac nid pawb sy’n meddu ar hynny, felly pan fydd e gyda chi, rhaid i chi sicrhau eich bod chi’n ei brofi fe bob dydd.

“Mae’r clwb fydd yn chwarae yn y gemau ail gyfle ddydd Sul a dydd Mercher yn un sydd yn unedig iawn a phan fo gyda chi hynny, gall fod yn ddefnyddiol iawn, yn enwedig ar adegau da fel hyn.”