Mae timau pêl-droed Abertawe a Chaerdydd wedi cyrraedd rownd gyn-derfynol gemau ail gyfle’r Bencampwriaeth.
Fe wnaeth yr Elyrch guro Reading oddi cartref o 4-1, a hynny’n ddigon ar wahaniaeth goliau ar ôl i Nottingham Forest golli o 4-1 gartref yn erbyn Stoke.
Byddai pwynt wedi bod yn ddigon i Gaerdydd, ond fe gipion nhw’r triphwynt hefyd wrth guro Hull o 3-0.
Mae’n golygu mai Brentford fydd gwrthwynebwyr Abertawe yng nghymal cynta’r rownd gyn-derfynol ddydd Sul (6.30) a’r ail gymal nos Fercher (7.45), tra bydd Caerdydd yn herio Fulham nos Lun (7.45) a nos Iau (7.45).
Ymateb Abertawe
Aeth yr Elyrch ar y blaen drwy chwip o gôl o bellter gan Rhian Brewster cyn i Reading golli eu capten Yakou Méïté, a gafodd ei anfon o’r cae am ffrwgwd â’i wrthwynebydd Mike van der Hoorn.
Ond tarodd y tîm cartref yn ôl o’r smotyn yn dilyn tacl flêr Jake Bidwell, gyda George Puscas yn rhwydo o ddeuddeg llath.
Dan bwysau, brwydrodd yr Elyrch yn galed ac fe aethon nhw ar y blaen eto drwy’r eilydd Wayne Routledge ar ôl 65 munud, a daeth Liam Cullen i’r cae i ymestyn mantais yr Elyrch ar ôl 83 munud i 3-1.
Wayne Routledge gipiodd y bedwaredd gôl funud i mewn i’r amser a ganiateir am anafiadau.
“Am noson!” meddai Steve Cooper, rheolwr Abertawe, ar ddiwedd y noson.
“Fe wnaethon ni ein gwaith a dyna oedd y nod.”
Yn ôl Steve Cooper, mae’r ffaith nad yw e na’r chwaraewyr wedi cyffroi’n ormodol yn ystod yr uchelfannau wedi bod yn bwysig, nid yn unig wrth i’r tymor dynnu tua’r terfyn ond ers y dechrau.
“Dw i’n credu, gyda chynifer o chwaraewyr ifanc yn y tîm, fod hynny wedi bod yn bwysig iawn,” meddai wrth golwg360.
“Fel dw i’n dweud o hyd, maen nhw’n profi popeth am y tro cyntaf ac weithiau, mae angen i bethau fynd o’i le cyn eu cael nhw’n iawn.
“Felly, pob clod i’r bois ifanc ond y bois i gyd hefyd, wnaethon nhw gadw eu pennau heb wneud penderfyniadau gwael ar y bêl.
“Fe wnaethon ni chwarae ein dull arferol, dal i ganolbwyntio a sgorio goliau gwych.”
‘Pawb gyda’i gilydd’
“Ry’n ni i gyd ynddi gyda’n gilydd,” meddai wedyn, gan wrthod derbyn y clod am lwyddiant y tîm.
“Fel dywedais i, mae tair gêm yn weddill, ry’n ni’n gwneud y pethau cywir, yn adeiladu yn y tymor byr a’r tymor hir ac fe gadwa i at hynny.
“Fe wnes i addo ar ddechrau’r swydd y byddwn i’n cadw at yr hyn dw i’n credu ynddo, a dydy hynny ddim wedi newid, hyd yn oed pan gawson ni adegau anodd yn ystod y tymor, ac yn sicr pan gawson ni rai da, a wnaiff e ddim newid am y gemau nesaf.
“Fy null i o arwain yw fod pawb gyda’i gilydd, nod y diwylliant yw fod gan bawb lais a barn.
“Dw i’n credu mewn bod gyda’n gilydd, dydyn ni ddim yn credu mewn clod unigol, ond clod i’r clwb.”
Ymateb Caerdydd
Gyda llai o bwysau ar Caerdydd, fe lwyddon nhw i sicrhau buddugoliaeth gyfforddus o 3-0 yn erbyn Hull, sy’n gostwng i’r Adran Gyntaf.
Rhwydodd Junior Hoilett ar ôl 19 munud cyn i Sean Morrison benio’r ail 14 munud yn ddiweddarach.
Daeth y drydedd oddi ar droed Danny Ward, a hynny’n dilyn cic rydd Lee Tomlin ar ôl 83 munud.
Ar ddiwedd y gêm, cyfaddefodd y rheolwr Neil Harris fod rywfaint o nerfau yn y perfformiad.
“Ond roedd yn jobyn o waith proffesiynol unwaith eto gennym ni,” meddai ar ddiwedd y gêm.
“Dylai Robert Glatzel fod wedi cael y bêl i’w chadw ar yr egwyl [digon o gyfleoedd i sgorio hatric], ond fe wnaeth Hull barhau i frwydro.
“Ond pob clod i’r criw ar ôl llwyddo.
“Mae’n gamp enfawr.
“Mae’r staff yn deilwng iawn o bob canmoliaeth.
“Des i i mewn heb fawr o enw da, ac roedd rhaid i fi brofi fy hun bob wythnos.
“Byddwn i wedi hoffi pe bai ein cefnogwyr wedi bod yma heno.
“Bydden ni wedi gwerthu allan heno a bydden nhw wedi ein cario ni hyd y diwedd.
“Maen nhw’n haeddu cael sylw arbennig.”