Cyhoeddodd y Gymdeithas Bêl-droed yr wythnos ddiwethaf y bydd Cymru yn wynebu Lloegr mewn gêm gyfeillgar i gael ei chwarae yn Wembley ym mis Hydref. Ac er bod hi’n debygol y bydd y gêm yn cael ei chwarae y tu ôl i ddrysau caeëdig, roedd ’na dipyn o gyffro ymysg y cefnogwyr. I rai ohonon ni, mae’r enw Wembley yn dal i danio’r dychymyg.