Cafodd gobeithion Caerdydd o gyrraedd rownd derfynol y gemau ail-gyfle ergyd drom neithiwr (nos Fawrth, Gorffennaf 28) wrth dîm Neil Harris gael eu trechu o 2-0 ar eu tomen eu hunain.

Bu’r hanner cyntaf yn agos iawn, gyda Chaerdydd yn agos i fynd ar y blaen cyn i gapten Fulham Tom Cairney daro’r postyn gydag ergyd o bell.

Bedwar munud wedi’r egwyl, derbyniodd Josh Onomah y bêl gyda’i gefn tuag at y rhwyd ar ochr y cwrt cosbi, cyn pasio amddiffynwyr Caerdydd, Sean Morrison a Curtis Nelson a tharo ergyd isel i gefn y rhwyd.

Wedi hynny, roedd Fulham yn well tîm, gyda dynion Scott Parker yn rheoli a phasio’r bêl o gwmpas, cyn i Neeskens Kebano sgorio ail gôl gyda chic rydd yn ail funud yr amser a ganiateir ar gyfer anafiadau.

“Cic yn y ceilliau”

Mae rheolwr Caerdydd Neil Harris wedi disgrifio’r canlyniad fel “cic yn y ceilliau.”

“Roeddem yn dda iawn yn y 25 munud cyntaf ond mae’n rhaid i ni gymryd ein cyfleoedd pan rydym yn chwarae yn dda,” meddai.

“Dwi’n credu bod y gôl gyntaf yn rhy hawdd, hoffwn ein gweld ni’n llawer iawn agosach ati.”

“Methu coelio’r” dyfarnwr

“Mae’r ail gôl yn gic rydd wych ond ydi o’n drosedd? Mae wedi rhoi ateb imi a dw i methu coelio’r peth,” meddai wedyn.

“Cafodd Lee Tomlin ei faglu gan Hector yn yr hanner cyntaf, ond chawsom ni ddim cic rydd.

“Dywedodd wrtha i bod Lee Tomlin wedi rhedeg i mewn i’r chwaraewr.

“Felly gofynnais os wnaeth Cairney redeg i mewn i Sean Morrison? Atebodd fi drwy ddweud ‘nid yw dau gam yn gwneud iawn’ felly mae o wedi cyfaddef ei fod yn anghywir ar y ddau achlysur.”