Mae Steve Cooper, rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, wedi cyffroi ond yn cadw ffocws cyn ail gymal rownd gyn-derfynol gemau ail gyfle’r Bencampwriaeth yn Brentford nos yfory (nos Fercher, Gorffennaf 29).

Mae gan yr Elyrch fantais o 1-0 ar ôl y cymal cyntaf yn Stadiwm Liberty, ar ôl i Andre Ayew sgorio chwip o gôl.

Ond mae tipyn o waith i’w wneud o hyd i ymestyn y fantais honno oddi cartref yn y gêm olaf erioed yn Griffin Park cyn i Brentford symud i stadiwm newydd.

“Dw i wedi cyffroi’n lân,” meddai Steve Cooper.

“Dw i’n cadw ffocws ac yn mwynhau’r swydd hon yn fawr.

“Dw i wir yn mwynhau gweithio gyda’r chwaraewyr hyn, y staff hyn a’r cefnogwyr hyn.

“Mae’n fraint cael bod yn rhan o’r cyfan.

“Rydych chi am elwa ar yr eiliadau yma a’u mwynhau nhw.

“Rydyn ni wedi bod yn gwneud hynny a gobeithio y gallwn ni barhau.”

‘Proffesiynol ac yn barod’

Yn ôl Steve Cooper, bydd y tîm yn “broffesiynol ac yn barod” ar gyfer yr ail gymal.

“Byddwn ni’n barod am beth bynnag a ddaw, a byddwn ni am ddechrau’n dda oherwydd dyna yw ystyr bod yn broffesiynol ac yn barod,” meddai.

“Rydyn ni wedi canolbwyntio arnon ni ein hunain drwy gydol y tymor, yn enwedig ers y gwarchae gyda’r amserlen sydd wedi bod gyda ni.

“Dyna sy’n gweithio i ni, ac rydyn ni’n parhau i wneud hynny.”