Mae Clwb Pêl-droed yn ystyried cymryd camau cyfreithiol yn erbyn cwmni technoleg HawkEye ar ôl i benderfyniad dadleuol arwain at eu cwymp o Uwch Gynghrair Lloegr dros y penwythnos.

Maen nhw’n honni y dylai Sheffield United fod wedi cael gôl yn eu gêm yn erbyn Aston Villa yn y gêm gyntaf ers y coronafeirws ar Fehefin 17.

Mae’n ymddangos bod golwr Aston Villa, Orjan Nyland wedi dal y bêl cyn camu’n ôl dros linell y gôl gyda’r bêl hefyd yn croesi’r llinell.

Gorffennodd y gêm yn gyfartal ddi-sgôr, gyda’r ddau dîm yn cael pwynt yr un.

Gorffennodd Aston Villa bwynt yn unig ar y blaen i Bournemouth yn y ras i osgoi’r gwymp ond byddai’r gôl dan sylw yn golygu y byddai gan Aston Villa bwynt yn llai yn y pen draw

Ymddiheuriad

Fe wnaeth cwmni HawkEye ymddiheuro am y gwall ar ddiwedd y gêm, gan ddweud mai dyma’r tro cyntaf mewn dros 9,000 o gemau i gamerâu fethu â gweld y darlun yn glir.

Wnaeth y dyfarnwr Michael Oliver na’r dyfarnwr fideo ddim gwyrdroi’r penderfyniad.

Mae disgwyl i gyfarwyddwyr Bournemouth drafod y mater yr wythnos hon.

Yn ôl rheolau’r defnydd o fideo, all canlyniad gêm ddim cael ei newid oherwydd gwall technolegol.

Mae’r Uwch Gynghrair wedi gwrthod gwneud sylw, tra nad yw HawkEye wedi ymateb eto.