Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cyhoeddi brand newydd ar gyfer Haen 3 gêm ddomestig y dynion.

Bydd 64 clwb ledled y wlad yn rhan o’r Cynghreiriau Ardal newydd.

Mae’r Cynghreiriau Ardal yn cynrychioli pedair rhan o’r wlad sydd yn bwydo i mewn i’r cynghreiriau cenedlaethol – Cynghrair Gogledd Cymru a Chynghrair De Cymru, sydd yn arwain at Gynghrair Cymru Premier.

Mae Ardal y Gogledd yn cynnwys cynghreiriau Ardal y Gogledd Ddwyrain a’r Gogledd Orllewin, tra bod Ardal y De yn cynnwys cynghreiriau Ardal y De Ddwyrain ac Ardal y De Orllewin.

Y cennin pedr

Yn ogystal â’r enwau newydd i’r cynghreiriau, mae brand gweledol newydd wedi’i ddatblygu ar gyfer y cynghreiriau gan ddefnyddio rhan allweddol o frand Cymdeithas Bêl-droed Cymru – y cennin pedr.

Mae’r saith genhinen bedr yn cynrychioli’r saith cynghrair yn nhair haen uchaf pêl-droed Cymru.

“Gyda strwythur y pyramid bellach wedi ei gwblhau, mae cennin pedr unigol yn codi o’r bêl i greu hunaniaeth unigryw’r Cynghreiriau Ardal,” meddai llefarydd ar ran Cymdeithas Bêl-droed Cymru.

“Mae pob cynghrair yn cael ei chynrychioli ar y logo yn lle’r petal sy’n cyd-fynd ag ardal ddaearyddol y gynghrair.

“Dyma newid mawr o hunaniaethau blaenorol y cynghreiriau yn Haen 3, gyda’r Cynghreiriau Ardal bellach â logo modern sy’n adlewyrchu dyheadau cyffrous pêl-droed Cymru ynghyd â rhagor o eglurder am y strwythur pyramid yng Nghymru.”

Noddwyr newydd

Mae’r Cynghreiriau Ardal hefyd yn cael eu cefnogi gan noddwyr newydd.

Mae Cynghreiriau Ardal y Gogledd yn cael eu noddi gan Lock Stock Self Storage, a Chynghreiriau Ardal y De yn cael eu noddi gan Floodlighting and Electrical Services.

“Dyma’r lefel o bêl-droed sydd yn sylfaen ac yn rhoi cadernid i’r gêm ledled Cymru ac fel cwmni sydd â phresenoldeb yn yr ardaloedd hyn, ry’ ni’n deall pwysigrwydd y clybiau hyn i’w cymunedau ac ry’n ni’n falch i barhau â’r gefnogaeth,” meddai Shon Powell, Cyfarwyddwr Lock Stock Self Storage, busnes teuluol a chwmni hunanstori mwyaf gwledydd Prydain.

Ategodd Gareth Roberts, Cyfarwyddwr Masnachol Floodlighting and Electrical Services yr un neges.

“Ry’n ni’n ymwybodol o werth y clybiau yng nghalon eu cymunedau”, meddai.

“Yn ystod y cyfnod heriol hwn, ry’n ni’n falch iawn o bartneriaethu gyda CBDC er mwyn darparu ar gyfer anghenion eu cwsmeriaid. Dyma bartneriaeth gyffrous a gwerthfawr i bawb sy’n rhan ohoni.”