Bydd Rico Henry ar gael i Brentford ar gyfer ail gymal eu gêm gyn-derfynol yn erbyn Abertawe yng ngemau ail gyfle’r Bencampwriaeth nos yfory (nos Fercher, Gorffennaf 29).

Cafodd y cefnwr chwith ei anfon o’r cae yn ystod y cymal cyntaf yn Stadiwm Liberty ddydd Sul (Gorffennaf 26), ond fe wnaeth ei glwb apelio’n llwyddiannus yn erbyn y penderfyniad.

Ar ôl y gêm, roedd Thomas Frank, rheolwr Brentford, yn galw am ddefnyddio dyfarnwr fideo mewn gemau ail gyfle gan ddweud ei fod e’n 100% yn sicr y byddai’r penderfyniad yn cael ei wyrdroi.

“Rydyn ni’n chwarae am ddyrchafiad i’r Uwchgynghrair, rydyn ni’n chwarae am £170m, felly dw i ddim yn deall pam nad yw e gyda ni ar gyfer y gemau hyn.”