Fe fydd corff Criced Sir Gâr yn ceisio torri record byd ar Orffennaf 19.

Gyda’r tymor criced ar lawr gwlad wedi’i ohirio yn sgil y coronafeirws, mae clybiau ar hyd a lled y wlad wedi bod yn cwblhau heriau ac yn cynnig deunydd ar-lein i gadw eu haelodau’n brysur yn ystod cyfnod dan do.

Yr her fydd llwytho fideo i wefan gymdeithasol Twitter, a’r record i’w thorri fydd llwytho’r nifer fwyaf o fideos o’r sialens i wefan gymdeithasol Twitter mewn un awr rhwng 12 o’r gloch canol dydd ac 1 o’r gloch y prynhawn.

Er mwyn cwblhau’r her yn llwyddiannus, rhaid cadw’r bêl o dan reolaeth ar y bat am ddeg eiliad.

Mae pobol yn cael eu hannog i roi cynnig ar yr her, ac i lwytho’u hymdrechion i YouTube gan ddefnyddio’r ddolen Twitter @CricedSirGar a’r hashnod #battap.

Unwaith fydd pobol yn cofrestru, byddan nhw’n derbyn y cyfarwyddiadau’n llawn.