Prynhawn digon cymysg gafodd Abertawe a Chaerdydd yn y Bencampwriaeth heddiw (dydd Sadwrn, Mehefin 27).
Tra bod deg dyn yr Elyrch wedi colli o 1-0 ar eu tomen eu hunain yn erbyn Luton, y tîm ar y gwaelod, roedd newyddion tipyn gwell i’r Adar Gleision wrth iddyn nhw guro Preston o 3-1 yn Deepdale.
Abertawe
Roedd gôl James Collins yn ddigon i Luton selio’r fuddugoliaeth yn erbyn deg dyn yr Elyrch, wrth i Jordon Garrick weld y cerdyn coch am daro gwrthwynebydd yn ei wyneb yng nghanol ffrwgwd ar ôl 82 munud.
Dechrau digon araf gafodd y ddau dîm, a phrin oedd eu cyfleoedd o flaen y gôl am gyfnodau hir.
Gyda’r gêm yn gyfartal ddi-sgôr ar yr egwyl, daeth Garrick i’r cae yn lle Aldo Kalulu er mwyn cyflymu’r chwarae, gyda George Byers hefyd yn dod i’r cae yn lle Jay Fulton yng nghanol y cae.
Er i Abertawe gael sawl cyfle wedyn, daeth y gôl dyngedfennol ar ôl 71 munud, gyda Ben Cabango yn penio’n llac oddi ar groesiad Izzy Brown, ac fe gododd James Collins uwchlaw’r amddiffynnwr a phenio’r bêl i’r rhwyd.
Roedd diwedd yr ornest yn danllyd wrth i’r Elyrch frwydro am bwynt, a ffrwydrodd Jordon Garrick yng nghanol y cyfan wrth i’r naill dîm a’r llall wthio’i gilydd yn ddigon diniwed ar y cyfan.
Ar ddiwedd y gê, fe wnaeth Steve Cooper, rheolwr yr Elyrch, gyfaddef fod y canlyniad yn ergyd i obeithion ei dîm o gyrraedd y gemau ail gyfle.
“Dim ond ni sydd ar fai,” meddai.
“Roedd y canlyniad yn un siomedig a’r perfformiad yn un siomedig.
“Welson ni mo hynny’n dod.
“Unwaith ddechreuodd y gêm, do’n i ddim yn hoffi ein hagwedd ni tuag ati.
“Pan ddechreuwch chi fel yna, mae’n anodd cael gwared ar y peth.
“Fe fydd yn ein costio ni oherwydd mae pwyntiau mor bwysig adeg yma’r tymor.
“Dydyn ni ddim eisiau dibynnu ar dimau eraill.”
Ac fe ddywedodd fod trosedd Jordon Garrick yn “gerdyn coch amlwg”.
Caerdydd
Bu’n rhaid i Gaerdydd aros tan y 21 munud olaf i sicrhau’r triphwynt yn erbyn Preston, sydd hefyd yn mynd am le yn y gemau ail gyfle. Roedden nhw’n gyfartal yn y tabl cyn y gêm, a dim ond gwahaniaeth goliau rhyngddyn nhw.
Peniodd Joe Ralls y bêl i’r rhwyd i roi’r Adar Gleision ar y blaen ar ôl 68 munud, cyn i Daniel Johnson unioni’r sgôr o fewn pedair munud.
Ond rhwydodd Nathaniel Mendez-Laing wyth munud cyn diwedd y 90, a Robert Glatzel yn sgorio’n hwyr yn yr ornest i godi Caerdydd uwchlaw Preston ac i mewn i’r chwech uchaf yn y tabl.