Mae rhedwr adnabyddus o Aberystwyth wedi cwblhau ei her o redeg 1,000 o filltiroedd yn ystod cyfyngiadau’r coronafeirws.

Aeth Dic Evans, cyn-brifathro 73 oed, ati’n wreiddiol er mwyn codi arian ar gyfer uned cemotherapi Ysbyty Bronglais yn y dref – rhywbeth mae’n ei wneud yn flynyddol ers 17 o flynyddoedd bellach.

Ond yn sgil y feirws, fe newidiodd ei gynlluniau er mwyn codi arian at weithwyr rheng flaen.

Fe ddechreuodd yr her ar Fawrth 23, ar ddechrau’r ymlediad pan oedd y wlad yn dechrau cael ei chloi i lawr.

Ei nod oedd cwblhau’r her cyn diwedd mis Mehefin, ac mae wedi llwyddo i wneud hynny gyda rhai diwrnodau dros ben.

Mae wedi codi dros £6,000 hyd yn hyn.