Mae Clwb Pêl-droed Lerpwl wedi beirniadu ymddygiad cefnogwyr oedd wedi ymgasglu yng nghanol y ddinas neithiwr (nos Wener, Mehefin 26) i ddathlu eu llwyddiant wrth ennill tlws Uwch Gynghrair Lloegr.
Bu’n rhaid i’r heddlu wasgaru’r dorf nos Wener, ac fe aeth adeilad y Liver ar dân yng nghanol y dathliadau wrth i dân gwyllt gael eu taflu at yr adeilad y mae perchennog Everton, Farhad Moshiri yn berchen arno’n rhannol.
Yn ôl y Cyngor a’r heddlu, roedd ychydig filoedd o bobol wedi dod ynghyd, gyda nifer fawr yn anwybyddu cyfyngiadau’r coronafeirws ac yn peryglu iechyd y cyhoedd.
Yn ôl adroddiadau, cafodd poteli eu taflu at yr heddlu oedd yn ceisio cadw trefn.
“Mae ein dinas yn dal yng nghanol argyfwng iechyd cyhoeddus ac mae’r ymddygiad yma’n gwbl annerbyniol,” meddai’r datganiad.
Ymateb i’r argyfwng
Bu’n rhaid i’r gwasanaeth tân fynd i ddiffodd y tân ar falconi adeilad y Liver.
Dydy hi ddim yn glir eto faint o ddifrod gafodd ei achosi.
Bu’n rhaid i’r heddlu gau nifer o ffyrdd yn y ddinas.
“Nid dyma’r amser i ddathlu,” meddai’r datganiad wedyn.
Mae cynlluniau ar y gweill i ddathlu’r llwyddiant yn ffurfiol ar ôl i’r coronafeirws gilio, meddai’r cyngor.
Mae Steve Rotherham, Maer Lerpwl, hefyd wedi beirniadu ymddygiad y dorf, gan ddweud iddo gael ei “siomi”.