Mae’r gyrrwr croenddu Lewis Hamilton yn dweud bod sylwadau cyn-bennaeth Formula 1 am ymgyrch Black Lives Matter “yn anwybodus ac yn annysgedig”.
Dywedodd Bernie Eccleston mewn cyfweliad â CNN fod pobol groenddu yn aml “yn fwy hiliol” na phobol â chroen gwyn, gan ddatgan ei syndod fod y gyrrwr wedi profi hiliaeth yn y byd rasio ceir.
Camodd y dyn 89 oed o’r neilltu yn 2017.
“Mor drist a siomedig o ddarllen y sylwadau hyn,” meddai Lewis Hamilton ar ei dudalen Instagram.
“Mae Bernie allan o’r gamp ac o genhedlaeth wahanol ond dyma’n union sydd o’i le – sylwadau anwybodus ac annysgedig sy’n dangos i ni fel cymdeithas pa mor bell sy’n rhaid mynd cyn bod modd cael cydraddoldeb go iawn.”
Beirniadu penaethiaid y gamp
Mae Lewis Hamilton wedi beirniadu penaethiaid y gamp am fethu â mynd i’r afael â hiliaeth yn y byd rasio ceir.
Mae’n dweud bod criw o wylwyr wedi duo’u hwynebau ar gyfer ras yn Barcelona yn 2008 ac wedi ei sarhau e â’u caneuon.
Dywed Bernie Ecclestone nad oedd y gyrrwr wedi trafod y mater â fe ar y pryd, ond mae Lewis Hamilton wedi wfftio hynny.
“Mae’n gwneud synnwyr i fi nawr na chafodd unrhyw beth ei ddweud na’i wneud i wneud ein camp yn fwy amrywiol nac i fynd i’r afael â’r sarhau hiliol wnes i ei oddef drwy gydol fy ngyrfa,” meddai.
“Os oes gan rywun oedd yn bennaeth ar y gamp am ddegawdau y fath ddiffyg dealltwriaeth o’r materion sydd wedi’u gwreiddio’n ddwfn i ni fel pobol groenddu bob dydd, yna sut allwn ni ddisgwyl i’r holl bobol sy’n gweithio iddo fe ddeall?
“Mae’n dechrau ar y brig.”
Ymgyrch newydd
Mae penaethiaid presennol wedi lansio ymgyrch newydd o’r enw #WeRaceAsOne er mwyn cynyddu amrywiaeth o fewn y gamp.
Mae Chase Carey, olynydd Bernie Ecclestone, wedi rhoi miliwn o ddoleri i’r ymgyrch.
Ac mae penaethiaid presennol wedi wfftio sylwadau Bernie Ecclestone gan ddweud eu bod nhw’n “anghytuno’n llwyr” â’i sylwadau.