Fe allai ennill tlws Uwch Gynghrair Lloegr arwain at gyfnod euraid yn hanes Clwb Pêl-droed Lerpwl, yn ôl y cadeirydd Tom Werner.
Cipiodd Lerpwl y teitl yr wythnos hon ar ôl i Chelsea guro Manchester City fel nad oedd modd iddyn nhw ddal y tîm ar y brig, sydd wedi ennill yr Uwch Gynghrair am y tro cyntaf erioed, a’r brif gynghrair am y tro cyntaf ers 30 o flynyddoedd.
Yn ôl Tom Werner, y rheolwr Almaenig Jurgen Klopp sy’n haeddu’r clod mwyaf am greu meddylfryd lle gall y chwaraewyr ennill a llwyddo yn Anfield.
“Rydyn ni am dan-werthu a gor-gyflawni,” meddai’r cadeirydd 70 oed.
“Gobeithio y bydden ni wedyn yn sicrhau cyfnod arall o lwyddiant hirdymor.
“Mae’r gystadleuaeth yn ffyrnig a dw i’n gwybod fod ein gwrthwynebwyr yn gweithio’n ddiflino i’n dal ni.
“Ond mae gyda ni gymaint o dalent yn ei le gyda Jurgen, Michael [Edwards, y Cyfarwyddwr Chwaraeon] a’r tîm ar y cae.
“Un o’r pethau wnaeth aros gyda fi’r tymor hwn oedd yr ysfa i ennill.
“Dw i ddim yn meddwl y bydd hynny’n pylu, maen nhw’n griw mor dda o chwaraewyr.
“Dw i’n hoff iawn ohonyn nhw fel unigolion oddi ar y cae.
“Maen nhw’n ostyngedig, yn garedig, ac yn mwynhau cwmni ei gilydd.
“Gallech chi weld hynny yn y fideos wrth iddyn nhw ddathlu.
“Mae’n dipyn i ofyn iddyn nhw gynnal y lefel ragorol honno ond ein nod yw parhau i chwarae i’r safon yma.”
Canmol y rheolwr – ond un o’r goreuon?
Mae Tom Werner wedi canmol Jurgen Klopp, ond heb ddweud ei fod e ymhlith y rheolwyr gorau yn hanes y clwb.
Daw’r sylwadau hynny er i Lerpwl sicrhau mantais o 23 pwynt gyda saith gêm yn weddill a dim ond 21 pwynt ar gael cyn diwedd y tymor.
Daw’r llwyddiant flwyddyn yn unig ar ôl iddyn nhw ennill Cynghrair y Pencampwyr.
“Ches i mo’r pleser o adnabod na gwylio pêl-droed wych [Bill] Shankly a [Bob] Paisely, felly dw i ddim wir eisiau cymharu Jurgen â rheolwyr blaenorol,” meddai.
“Dw i jyst yn gwybod fod y gynghrair yn gystadleuol dros ben a phan ddaethon ni’n rhan o Lerpwl yn y lle cyntaf dros ddeng mlynedd yn ôl, doedden ni ddim hyd yn oed yn meddwl am ennill y gynghrair.
“Ein breuddwyd oedd cyrraedd y pedwar uchaf a Chynghrair y Pencampwyr.
“Mae e jyst wedi creu’r fath awyrgylch yn Lerpwl fel nad oes dewis arall ond ennill.
“Mae e wedi creu’r fath awyrgylch.
“Un o’r pethau dw i hapusaf yn ei gylch pryd bynnag dw i’n gwylio’r tîm yw faint o chwaraewyr sy’n cyfrannu.
“Dw i hefyd yn mwynhau eu mwynhad nhw, oherwydd fe welais i fideo ohonyn nhw’n dathlu gyda’i gilydd ac fe allech chi deimlo’r cyfeillgarwch sydd gan y clwb hwn.
“Fe wnaethon ni ddathlu hyn fel clwb.”