Yr Awstraliad Brock James yw hyfforddwr ymosod newydd y Gweilch.

Mae cyn-faswr Clermont Auvergne wedi llofnodi cytundeb tair blynedd i fod yn aelod o dîm hyfforddi Toby Booth, y prif hyfforddwr newydd.

Bydd e’n dechrau yn y swydd fis nesaf ar ôl cyfnod yn chwaraewr-hyfforddwr Bordeaux Begles.

“Mae’n gyfle gwych i fi gael bod yn rhan o’r Gweilch,” meddai.

“Mae gan Toby gynllun gwych a dw i’n edrych ymlaen at gydweithio â fe wrth gyflawni hynny, a dw i wedi cyffroi’n fawr o gael cydweithio â’r chwaraewyr yn y Gweilch.

“Pan edrychwch chi ar y garfan, mae’n llawn chwaraewyr rhyngwladol profiadol a llawer o dalent ifanc cyffrous yn dod drwodd, ac roedd y cyfle i weithio â nhw’n rywbeth nad o’n i’n gallu ei wrthod.

“Mae yna hanes balch iawn o ran rygbi yng Nghymru ac fel rhywun sy’n caru’r gêm, mae cael bod yn rhan o hynny’n rywbeth dw i’n edrych ymlaen yn fawr ato.”

Gyrfa
Daeth ei yrfa fel chwaraewr i ben ac yntau’n brif sgoriwr pwyntiau rygbi Ffrainc, gyda mwy na 3,000 o bwyntiau.
Cafodd ei enwi ymhlith 50 chwaraewr gorau’r byd yn 2009.

Yn ei dymor cyntaf gyda Clermont Auvergne, fe oedd prif sgoriwr pwyntiau’r gynghrair gyda 380 o bwyntiau.

Torrod e record y Top 14 yn 2009 gyda 41 o giciau llwyddiannus yn olynol at y pyst – record sydd heb gael ei thorri ers hynny, ac a oedd dair cic yn brin o record byd Neil Jenkins.

Croesawu’r penodiad

Mae Toby Booth, prif hyfforddwr y Gweilch, wedi croesawu’r penodiad.

“Mae fy athroniaeth i a Brock o ran y gêm a sut rydyn ni am i’r Gweilch chwarae’n debyg iawn, mae’n fater o ddatblygu tîm o chwaraewyr cartref, chwarae brand deniadol o rygbi a sgorio ceisiau,” meddai.

“Fe wnaethon ni gyfweld â deg o ymgeiswyr ar gyfer y swydd ac roedden nhw i gyd yn gymwys iawn ac wedi creu argraff, ond roedden ni’n benderfynol iawn ac yn fwriadol yn ystod y broses er mwyn cael y person roedden ni eisiau ei gael.
“Fe wnaethon ni benodi Brock oherwydd ei CV rygbi ac oherwydd ei brofiad helaeth o gystadlaethau Ewropeaidd a rygbi yn hemisffer y gogledd.
“Pam? Oherwydd mai dyna lle mae’n rhaid i’r Gweilch fod yn gystadleuol.
“Does dim amheuaeth gen i yn fy meddwl y bydd e’n ysbrydoliaeth i’r chwaraewyr y bydd e’n eu hyfforddi oherwydd mae e wedi bod yn llwyddiannus fel chwaraewr, ac yn dod â’r un feddylfryd fel hyfforddwr.”
Chwaraewyr
Mae Rhys Webb, Mat Protheroe, Rhys Davies a Nicky Thomas i gyd wedi ymuno â’r Gweilch.

Ac mae’r capten Justin Tipuric hefyd wedi llofnodi cytundeb newydd, ynghyd â Dan Lydiate, Sam Parry, Reuben Morgan-Williams, Sam Cross, Owen Watkin, Bradley Davies, Adam Beard, Keelan Giles, Cai Evans, Ma’afu Fia, Tom Botha a Rhodri Jones.