Mae Steve Cooper, rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, yn dweud nad yw perfformiadau’r ymosodwr ifanc Rhian Brewster, sydd ar fenthyg o Lerpwl tan ddiwedd y tymor, wedi ei synnu.
Sgoriodd e ddwy gôl yn y fuddugoliaeth ym Middlesbrough yr wythnos ddiwethaf, ac fe fydd e’n gobeithio ychwanegu at ei gyfanswm yn y gêm yn erbyn Luton fory (dydd Sadwrn, Mehefin 26).
Mae e wedi sgorio chwe gôl mewn 12 gêm yn y Bencampwriaeth hyd yn hyn, ond mae Cooper yn dweud ei fod e wedi gosod rhagor o nodau iddo fe’r tymor hwn.
Y gêm yn erbyn Luton fydd y gyntaf i’w chynnal yn Stadiwm Liberty ers i’r Bencampwriaeth ddychwelyd ar ôl y coronafeirws.
“Dw i ddim yn synu oherwydd dw i wir yn credu yn y boi,” meddai.
“Ry’n ni’n amlwg yn gwybod fod ganddo fe’r ddawn i gael effaith ar gemau, ond dw i hefyd yn gwybod fod ganddo fe’r ysfa a’r ymrwymiad a dw i’n credu bod hynny mor bwysig yn y gynghrair.
“Dw i heb gael fy synnu ond ar yr un pryd, rhaid i chi fynd allan a’i gwneud hi ac mae’n dal yn ddyddiau cynnar iddo fe.
“Dydy 12 o gemau ddim yn llawer. Mae ganddo fe chwe gôl ond bydd e’n anelu am ragor, a dw i wedi gosod amcanion iddo fe dw i’n gobeithio y bydd e’n eu cyflawni oherwydd byddwn ni i gyd yn elwa o hynny.
“Yr her iddo fe yw cadw fynd.
“Mae e’n chwaraewr da, yn foi gwych, ac mae’r bois eraill yn ei hoffi fe’n fawr iawn yma.
“Mae e wedi setlo’n arbennig o dda, mae e wrth ei fodd yn Abertawe, ac yn mwynhau chwarae pob gêm.
“Dim ond ei fod e’n parhau i chwarae’n dda a sgorio, bydd hynny’n parhau, ond fel unrhyw chwaraewr ifanc, rhaid iddo fe ganolbwyntio ar y presennol a gwneud y mwyaf o bob dydd.”
Prif ymosodwr?
Er mai 20 oed yw e, mae Steve Cooper o’r farn ei fod e’n elwa o fod yn brif ymosodwr yr Elyrch.
“Ry’n ni’n dal i fynd drwy’r broses honno, dw i’n meddwl,” meddai.
“Sgoriodd e ddwy [gôl] yr wythnos ddiwethaf ac mae yna lawer o gwestiynau yn ei gylch e, yn naturiol, oherwydd ei fod e’n chwarae i Lerpwl.
“Ystadegyn arall yw ei fod e wedi chwarae 12 o gemau’n unig, sydd ddim yn llawer.
“Mae e wedi chwarae ym mhob gêm ond un, a honno yng nghanol wythnos lle’r oedd tair gêm, ac ro’n i’n teimlo bod angen iddo fe orffwys ac y byddai’n well iddo fe ddod oddi ar y fainc.
“Ar wahân i hynny, mae e wedi dechrau pob gêm felly mae hi braidd yn gynnar i fi ddweud ie yn bendant, ond dw i’n credu ei fod e ar ei ffordd [i fod yn brif ymosodwr] wrth fagu profiad.”
Beth am y dyfodol yn Lerpwl?
Y tebygolrwydd yw y bydd Lerpwl, sydd newydd ennill ennill tlws Uwch Gynghrair Lloegr am y tro cyntaf, yn awyddus iddo fe ddychwelyd i Anfield y tymor nesaf.
Ac mae Steve Cooper yn dweud y bydd e’n cael digon o gyfleoedd cyn diwedd y tymor yn Abertawe i brofi ei hun cyn camu’n ôl i lefel uwch eto.
“Fe wnawn ni barhau i roi cyfleoedd iddo fe os yw e’n cymhwyso’i hun ac yn perfformio fel mae e’n ei wneud,” meddai.
“Yn y pen draw, un peth yw rhoi cyfleoedd i chwaraewyr ifainc, ond mae’n fater arall a ydyn nhw’n eu cymryd nhw neu beidio.
“Dyna sy’n codi chwaraewyr i’r lefel lle byddan nhw yn y pen draw.
“Ges i’r un sgwrs â Ben Cabango a Jordon Garrick yn ddiweddar.
“Mae gyda ni fois ifainc eraill ar y cyrion y byddwn i’n barod iawn i’w cynnwys nhw pe bai angen, dim problem.”
Aeddfedrwydd
Oddi ar y cae, mae Steve Cooper yn canmol aeddfedrwydd Rhian Brewster, sydd wedi’i weld yn fwyaf diweddar yn sgil yr ymgyrch Black Lives Matter.
“Mae e’n foi rhagorol, bywyd y parti, ac yn gymeriad gwych,” meddai.
“Ar yr un pryd, mae ganddo fe ysfa a diddordeb yn yr hyn ry’n ni’n ei gael allan o’r ymarferion, beth yw cynllun y gêm, a sut ry’n ni’n meddwl y gall e chwarae’n dda.
“Mae e’n gwneud hynny â phersonoliaeth wych ac mae e’n hoffus iawn.
“Mae e wedi ffitio i mewn yn arbennig o dda yma ac mae’r holl fois yn dod ymlaen yn dda â fe.
“Maen nhw’n ymarfer yn galed, ond yn mwynhau hynny.
“Ar ôl y gêm yr wythnos ddiwethaf, fe gafodd e leisio’i farn.
“Mae yna fudiad mawr yn digwydd ar hyn o bryd, ac ry’n ni wedi dangos ein cefnogaeth fel clwb.
“Ry’n ni’n cefnogi unrhyw weithredoedd fel y gwnaeth Rhian ar ôl y gôl hefyd, ac rydyn ni’n sefyll gyda’n gilydd.”