Heb griced sirol tan o leiaf Awst 1, mae golwg360 wedi bod yn edrych yn ôl ar rai o gemau Morgannwg o’r gorffennol.

Oni bai am y coronafeirws, Middlesex fyddai’r ymwelwyr â Gerddi Sophia heno, a hynny ar gyfer gêm ugain pelawd. Mae’r darn yma’n troi’r cloc yn ôl at y fuddugoliaeth dros y sir honno yn 2017 a seliodd le y sir Gymreig yn rownd wyth ola’r Vitality Blast ar eu ffordd i Ddiwrnod y Ffeinals.

Buddugoliaeth o saith wiced oedd hi, ac fe sicrhaodd fod Morgannwg yn gorffen ar frig y grŵp i gadarnhau mai Swydd Gaerlŷr fyddai’r ymwelwyr yn rownd yr wyth olaf – er mai un pwynt yn unig oedd ei angen i sicrhau gêm gartref.

Fyddai unrhyw beth llai na buddugoliaeth ddim yn ddigon i’r Saeson fynd drwodd.

Y bowlwyr cyflym Michael Hogan a Marchant de Lange oedd sêr y noson i Forgannwg, gyda thair wiced yr un wrth i’r Saeson orffen eu batiad gyda sgôr o 99-8 mewn 14 o belawdau wrth i’r glaw amharu ar y gêm.

Daeth 58 o’r rhediadau hynny oddi ar fat yr Awstraliad Adam Voges, sy’n adrodd cyfrolau am berfformiad y batwyr eraill yn ystod batiad Middlesex.

Wrth gwrso 100 i ennill, tarodd y Cymro Aneurin Donald 33 oddi ar 22 o belenni.

Er i Forgannwg lithro rywfaint ar ôl colli sawl wiced mewn cyfnod byr i adael nod o 31 oddi ar bedair pelawd, adeiladodd Jacques Rudolph (22 heb fod allan) a Chris Cooke (25 heb fod allan) bartneriaeth o 46 i arwain Morgannwg i’r fuddugoliaeth.

Aeth Morgannwg yn eu blaenau i drechu Swydd Gaerlŷr o naw wiced yn rownd yr wyth olaf, cyn colli yn erbyn y Birmingham Bears yn y gêm gyn-derfynol gyntaf ar Ddiwrnod y Ffeinals yn Edgbaston.