Mae Clwb Pêl-droed Lerpwl wedi cael eu coroni’n bencampwyr Lloegr am y tro cyntaf ers 1990.

Golygodd y ffaith bod Manchester City wedi colli o 2-1 yn erbyn Chelsea neithiwr bod Lerpwl yn bencampwyr heb orfod cicio pêl, a hynny’n gynt yn y tymor (o ran gemau) nag unrhyw dîm yn hanes yr Uwchgynghrair.

“Dyma’r peth gorau alla i ddychmygu ac mae’n fwy nag allwn i erioed wedi breuddwydio amdano,” meddai rheolwr y tîm, Jurgen Klopp wrth Sky Sports News.

“Dwi mor hapus dros yr hogiau, y cefnogwyr, y clwb a’r ddinas. Mae’n deimlad anhygoel ac rwyf yn hynod falch o’r hyn rydym wedi ei gyflawni.

“Moment arall yn ein bywydau wnawn ni fyth anghofio.”

Cefnogwyr y tu allan i Anfield

Ar strydoedd Lerpwl, roedd tân gwyllt yn cael ei gynnau, fflerau’n cael eu tanio, a llawer yn canu caneuon pêl-droed.

Parhaodd pobol, gyda phlant a chŵn, i wneud eu ffordd ar draws Parc Stanley tuag at y stadiwm Anfield tan yn hwyr.

Mae’r heddlu wedi annog cefnogwyr i aros yn sâff yn ystod yr holl ddathlu, ac mae Cyngor Dinas Lerpwl wedi dweud wrth y cefnogwyr i “gael parti mawr” ond cynnal ymbellhau cymdeithasol wrth wneud.