Mae Steve Cooper, rheolwr tîm pêl-droed Abertawe wedi dweud wrth golwg360 fod ei dîm yn “barod i addasu” i Stadiwm Liberty heb gefnogwyr ddydd Sadwrn (Mehefin 27), ond na fydd unrhyw “gemau seicolegol” yn erbyn y gwrthwynebwyr wrth groesawu Luton i’r ddinas.

Yn sgil y coronafeirws, does dim cefnogwyr yn y caeau ar hyn o bryd, ac mae’n rhaid i’r chwaraewyr a’r staff gadw at reolau pellter cymdeithasol oddi ar y cae, sy’n golygu newid rhywfaint ar y trefniadau arferol.

Ar gyfer taith yr Elyrch i Middlesbrough yr wythnos ddiwethaf, fe fu’n rhaid i’r Elyrch deithio mewn sawl bws cyn hedfan i ogledd-ddwyrain Lloegr, lle’r oedden nhw’n aros mewn ystafelloedd ar wahân yn y gwesty.

“Dw i’n eitha’ siŵr y bydd sefyllfa pob stadiwm yn wahanol,” meddai yn ei gynhadledd wythnosol.

“Bydd hynny’n newid o un gêm i’r llall.

“Fe wnaethon nhw’n dda ym Middlesbrough, er enghraifft, lle’r oedden ni’n newid yn yr hyn fyddai fel arfer yn ystafell y wasg, ac roedd rhaid i ni gerdded i lawr y llwybr a mynd i’r cae yn syth o’r eisteddle yn lle’r twnnel.

“Byddwn ni’n gwneud rhywbeth ychydig yn wahanol, a dw i’n siŵr y bydd Millwall yr wythnos nesa’n wahanol eto.

“Rhaid i chi fod yn barod i addasu gorau gallwch chi.

“Peidiwch â defnyddio unrhyw beth fel esgus, oherwydd mae’n rhaid i glybiau fod yn deg yn nhermau’r hyn maen nhw’n ei ddarparu ar gyfer y timau oddi cartref.

“Dw i ddim yn meddwl y gallwn ni chwarae gormod o gemau seicolegol yn nhermau’r sefyllfa, oherwydd mae’n rhaid i ni gyflwyno’n cynlluniau i’r Gynghrair Bêl-droed fel pob tîm arall.

“Unwaith mae’r cynllun wedi cael sêl bendith, rhaid i chi fwrw ati a pheidio â gadael i unrhyw beth effeithio arnoch chi.

“Mae pob gêm yn wahanol, ond rydych chi’n dal i baratoi ar gyfer gêm bêl-droed.”

Tynnu ar brofiadau blaenorol

Oherwydd fod pob gêm yn wahanol, mae Steve Cooper o’r farn fod modd addasu wrth i weddill y tymor fynd yn ei flaen, a dysgu o bob un profiad.

“Pan aethon ni i Gaerdydd ar gyfer y gêm gyfeillgar, fe wnaethon ni gyrraedd yn ein cit, cerdded i’r cae a chwarae,” meddai.

“Roedd hynny’n neges dda i bawb y gallwch chi wneud pethau ychydig yn wahanol er mwyn paratoi ar gyfer y gêm.

“Felly fe wnawn ni ymateb i bopeth sy’n dod gydag agwedd bositif a pheidio â gadael i unrhyw beth fod yn esgus.”

Y Liberty yn wag

Wrth baratoi ar gyfer y gêm, mae’r chwaraewyr wedi dechrau ymgyfarwyddo â Stadiwm Liberty heb gefnogwyr.

“Ry’n ni wedi manteisio ar argaeledd y Liberty gryn dipyn,” meddai Steve Cooper.

“Wrth chwarae gemau cyfeillgar a gemau paratoadol, rydych chi’n gofyn i’r chwaraewyr wisgo’u cit a mynd mor agos â phosib at sefyllfa gêm go iawn.

“Ry’n ni wedi trio’n gorau i ail-greu cymaint â phosib.

“Dw i ddim yn credu y bydd unrhyw beth union yr un fath mewn gwirionedd, ond ry’n ni’n edrych ymlaen oherwydd mae bob tro yn lle gwych i fod.”

Wrth i’r darlledwyr ddarlledu’r gemau ar y teledu, maen nhw wedi bod yn ffrydio sŵn y dorf ac yn ôl Steve Cooper, y chwaraewyr fydd yn penderfynu pa sŵn fydd i’w glywed yn y stadiwm ar y diwrnod.

“Dydyn ni ddim wedi gwneud penderfyniad terfynol eto,” meddai.

“Ry’n ni’n rhoi llais i’r chwaraewyr yma ac os yw’n rhywbeth maen nhw eisiau ei wneud, yna fe fyddwn ni’n ei wneud e.

“Os na, fe fyddwch chi’n clywed cryn dipyn o weiddi ar SwansTV!

“Ry’n ni wedi dweud ers y dechrau ein bod ni eisiau chwarae mewn caeau llawn, yn enwedig gartref.

“Dyna sy’n bwysig i’r wlad hon. Mae mynd i gemau’n rhan bwysig iawn o fywydau llawer iawn o bobol.”

Eilyddion ychwanegol yn rhoi cyfle i’r chwaraewyr ymylol

Newid arall yn sgil y coronafeirws yw fod hawl gan dimau ddefnyddio pum eilydd yn lle’r tri arferol ac fe fydd hynny’n rhoi cyfle i rai o’r chwaraewyr ymylol.

Yn ôl Steve Cooper, fe fydd yn hwb i’r chwaraewyr hynny sydd fel arfer ar y cyrion i wthio am le yn y tîm.

“Fe ddylai fod, yn sicr, oherwydd ry’n ni bob amser yn gweithio gyda’r garfan gyfan,” meddai.

“Dydyn ni byth yn ymarfer gydag 11 o chwaraewyr fydd yn dechrau’r gêm yn unig.

“Yr hyn dw i wedi’i ddweud o’r blaen yw fod rhaid i’r chwaraewyr ddod i arfer â chwarae ochr yn ochr â’i gilydd, yn ystod gemau ac o un gêm i’r llall.

“Gall partneriaid canol cae newid, gallai amddiffynwyr canol amrywio ac yn y blaen.

“Er mwyn gwneud hynny, rhaid paratoi’r garfan i gyd er mwyn chwarae fel rydych chi eisiau chwarae.

“Felly pan gaiff chwaraewyr ei daflu i mewn, boed fel eilydd neu’n dechrau’r gêm, byddan nhw’n barod i wneud eu gwaith ochr yn ochr â rhywun arall.

“P’un a yw hynny’n hwb iddyn nhw, dydy e ddim yn amherthnasol, ond dyna sut mae pethau, fod hawl gyda chi eilyddio pum chwaraewr.

“Ry’n ni eisiau gwneud y mwyaf o hynny ond ar yr un pryd, cyfyngu ar newidiadau’r gwrthwynebwyr hefyd.”

Gyda chynifer o gemau mewn cyfnod byr, dywed Steve Cooper ei bod hi’n anochel y bydd chwaraewyr yn cylchdroi bob gêm.

“Ry’n ni ar ddechrau cyfnod unigryw,” meddai.

“Byddwn ni’n chwarae sawl gêm o fewn diwrnodau i’w gilydd, ac fe all ddigwydd yn y Bencampwriaeth lle’r ydych chi’n chwarae tair gêm mewn wythnos neu chwe gêm mewn mis, ond fe gewch chi seibiant wedyn fel arfer.

“Ond dydy hynny ddim yn wir fan hyn, felly mae’n gofyn am dipyn o gynllunio yn nhermau cylchdroi a gall hynny fod yn rhan o gynllunio ar gyfer gêm benodol a meddwl am newidiadau ar yr egwyl, ond rhaid gwneud penderfyniadau ar fympwy hefyd.”