Heb griced sirol tan o leiaf Awst 1, mae golwg360 wedi bod yn edrych yn ôl ar rai o gemau Morgannwg o’r gorffennol.

Mae’n deg dweud bod yr Oval wedi bod yn un o hoff gaeau tîm criced Morgannwg yn y gystadleuaeth ugain pelawd dros y blynyddoedd diwethaf.

Pe na bai’r tymor wedi’i ohirio yn sgil y coronafeirws, i’r cae hwnnw y byddai’r sir Gymreig wedi bod yn teithio heno (nos Iau, Mehefin 25).

Bydden nhw wedi bod yn ceisio gwneud yn iawn am chwalfa’r tymor diwethaf.

Dechreuodd y gêm yn dda i’r sir Gymreig, wrth i Marchant de Lange ac Andrew Salter gipio pedair wiced yr un, gyda Surrey yn cael eu bowlio allan am 141 mewn ugain pelawd gyfan.

Ond yr un hen stori oedd hi o ran y batio, gyda dim ond Fakhar Zaman, y batiwr tramor o Bacistan, a Chris Cooke yn cael sgôr ffigurau dwbwl.

Colled yn erbyn y llif

Roedd y golled honno’n fwy o sioc yng nghyd-destun y gemau a fu yn y gorffennol, gyda Morgannwg wedi mynd yno â record 100% mewn gemau ugain pelawd.

Ac roedd rhai o’r buddugoliaethau hynny’n swmpus hefyd.

Buddugoliaeth o bedair wiced gawson nhw yn 2018, wrth gwrso nod o 194 yn llwyddiannus, er i Nic Maddison osod y seiliau i’r Saeson gyda batiad o 70. Tarodd Kiran Carlson, y batiwr ifanc o Gaerdydd, 58 gyda chyfraniadau o 46 heb fod allan gan seren y gêm, Graham Wagg, a 43 gan Craig Meschede.

Yn 2017, Aneurin Donald oedd catalydd y fuddugoliaeth gyda sgôr o 76 allan o 181-6, a Marchant de Lange yn cipio tair wiced wrth i Surrey lwyddo i gyrraedd 175-7 yn unig wrth gwrso.

Y tymor hwnnw, aeth Morgannwg yn eu blaenau i gyrraedd Diwrnod y Ffeinals yn Edgbaston, cyn colli yn y rownd gyn-derfynol.

Yr Iseldirwr Timm van der Gugten oedd yn ei chanol hi yn 2016, wrth gipio pedair wiced am 14 wrth i’r Saeson gael eu bowlio allan am 93, a’r nod yn un hawdd i Forgannwg, oedd wedi ennill o wyth wiced.

Ond y fuddugoliaeth fwyaf ohonyn nhw i gyd oedd honno yn 2015, wrth i Colin Ingram daro 91 allan o gyfanswm o 240-3, sgôr gorau erioed Morgannwg mewn gêm ugain pelawd.

Roedd cyfraniadau Jacques Rudolph (62) a Chris Cooke (46 heb fod allan) hefyd yn hollbwysig, cyn i’r troellwr llaw chwith Dean Cosker gipio pedair wiced am 30 wrth i Surrey gael eu bowlio allan am 215.