Torrodd fy nghalon yn deilchion wythnos dd’wetha. Ac o’dd e ddim byd i neud gyda Covid. Bu farw cymeriad unigryw. Chi’n gwybod am bwy rwy’n sôn. Roedd sbloets fawr ar y teledu ac yn y papurau a dros y We. Diwedd y daith i unigolyn a ddiddanodd genedlaethau ohonom dros y degawdau diwethaf. Rhywun gododd ein calonnau pan oedd ysbryd y Deyrnas Unedig yn fregus ac ar ei gliniau. Ie – Willie Thorne. Roedd Willie Thorne yn chwarae snwcer yn ôl yn y 1980au ac roeddwn yn dwlu arno fe. Dennis Taylor oedd