Mae’r mudiad Chwarae Teg wedi cydweithio gyda Senedd Ieuenctid Cymru eleni er mwyn dathlu bywydau a llwyddiannau pedair menyw o Gymru.

Y pedair sydd wedi cael eu dewis gan aelodau’r Senedd Ieuenctid eleni, un ar gyfer pob ardal Seneddol, yw Llywydd y Senedd, Elin Jones; y canwr-gyfansoddwr Caryl Parry Jones; yr Eifftolegydd a’r awdur Cymraeg, Kate Bosse-Griffiths, a’r nyrs Betsi Cadwaladr.

Yn ôl Chwarae Teg, y nod yw “amlygu llwyddiannau merched, a rhoi i ferched a menywod ifanc ar draws y genedl fodelau rôl i ymgeisio atyn nhw.”

Bydd pleidlais Dewis y Bobl yn cael ei chynnal yng ngwobrau Womenspire Chwarae Teg ym mis Medi eleni.

Cafodd Chwarae Teg ei sefydlu yn 1992 i helpu i sicrhau y gall menywod yng Nghymru gael mynediad i’r gweithle a datblygu eu sgiliau.

“Ysbrydoledig”

Bydd y menywod yn cael eu proffilio tan ddiwedd mis Gorffennaf trwy lwyfannau digidol Chwarae Teg.

“Mae ein hymgyrch Merched Gwych o Gymru yn ceisio arddangos menywod sydd wedi cyflawni rhywbeth arbennig,” meddai Cerys Furlong, Prif Weithredwr Chwarae Teg, “boed hynny mewn gwyddoniaeth, chwaraeon, cerddoriaeth, celf, gwleidyddiaeth neu mewn mannau eraill.

“Rydym yn falch iawn o gydweithio gyda’r Senedd Ieuenctid ar yr ymgyrch eleni.

“Mae aelodau’r Senedd Ieuenctid eu hunain yn gwneud modelau rôl ysbrydoledig ac mae’n gyffrous iawn ein bod yn tynnu sylw at gyflawniadau’r menywod sydd wedi’u hysbrydoli.”

Bydd yr ymgyrch yn gorffen gyda seremoni ar-lein a phleidlais fyw yn ystod gwobrau ‘Womenspire Chwarae Teg’ ar Fedi 29 – a fydd yn arwain at un fenyw yn derbyn tlws Dewis y Bobl.