Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi dweud eu bod nhw’n gweithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr er mwyn cysylltu ar frys gyda mwy na 300 o weithwyr mewn ffatri fwyd yn Wrecsam sydd heb ddod am brawf coronafeirws.

Mae 166 o achosion wedi’u cadarnhau yn Rowan Foods yn Wrecsam.

Dywedodd Dr Giri Shankar, y Cyfarwyddwr Digwyddiadau ar gyfer yr ymateb i’r achosion o’r coronafeirws yn Iechyd Cyhoeddus Cymru bod y gwaith o brofi’r gweithlu sy’n gysylltiedig â’r achosion o’r coronafeirws yn ardal Wrecsam yn parhau.

“Roedd nifer yr achosion yr adroddwyd arnynt ddydd Sadwrn 27 Mehefin 2020 yn awgrymu na fu unrhyw newid yn y 24 awr flaenorol. Fodd bynnag, rydym yn disgwyl i’r nifer hwn gynyddu unwaith y bydd yr holl weithwyr sy’n gysylltiedig â’r safle wedi cael eu profi a phan fydd y canlyniadau wedi cael eu dadansoddi.

“Rydym yn gweithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr er mwyn cysylltu ar frys gydag ychydig dros 300 o weithwyr sydd heb ddod am brawf eto.

“Fel y byddem yn disgwyl gydag unrhyw broses tracio ac olrhain benodol, byddwn yn canfod achosion asymptomatig ychwanegol. Nid yw canfod yr achosion hyn yn golygu bod cyfradd yr haint yn ardal Wrecsam yn cynyddu yn gyffredinol.

“Nid oes unrhyw dystiolaeth mai Rowan Foods yw ffynhonnell yr haint.”

Ychwanegodd y bydd y tîm aml-asiantaeth sy’n rheoli’r achosion gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru yn parhau i adolygu’r sefyllfa ac yn gweithio gyda Rowan Foods, y gweithlu a’r gymuned ehangach “er mwyn dod â’r achosion hyn i ben yn gyflym.”

2 Sisters

Daw hyn yn dilyn 210 o achosion o’r coronafeirws ymhlith y gweithlu yn ffatri brosesu ieir 2 Sisters yn Llangefni, Ynys Môn.

“Mae’r cynnydd yn yr achosion sydd wedi’u cofnodi yn isel, sy’n gysur ac yn dystiolaeth bod y mesurau rheoli sydd wedi’u rhoi yn eu lle, ynghyd â’r broses brofi gyflym, wedi gweithio,” meddai Dr Giri Shankar.

“Nid oes unrhyw dystiolaeth i awgrymu bod yr achosion ymhlith y gweithlu yn ffatri 2 Sisters wedi arwain at drosglwyddo cymunedol sylweddol.

“Dylid nodi nad yw unrhyw gynnydd yn y nifer o achosion yn y gweithlu yn golygu bod yr haint yn cynyddu yn y boblogaeth leol yn gyffredinol.”

Kepak                            

Yn y cyfamser mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn parhau i weithio gyda phartneriaid aml-asiantaeth ynghylch clwstwr bach o achosion o’r coronafeirws yn ffatri prosesu cig Kepak ym Merthyr, meddai Dr Giri Shankar.

Mae cyfanswm o 29 o achosion positif wedi’u cofnodi ymhlith y gweithwyr ers dechrau pandemig y Coronafeirws, gyda naw o’r achosion hynny wedi digwydd ers Mehefin 1, meddai.

“Rydym yn atgoffa’r cyhoedd a’r cyfryngau nad oes unrhyw achosion wedi’u datgan ar y safle hyd yma, a bod yr ymchwiliadau’n parhau.

“Mae’r Gweithgor Iechyd a Diogelwch wedi ymweld â’r safle ac roedd y swyddogion yn fodlon bod Kepak Merthyr yn rhoi pob mesur rhesymol ymarferol ar waith er mwyn atal lledaeniad COVID-19 ymhlith y gweithlu.

“Mae’r cwmni, gyda chefnogaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, yn cynnal profion eang a chyflym ar ei weithlu.”