Does “dim sicrwydd” y bydd etholiadau’r Senedd yn cael eu cynnal fis Mai y flwyddyn nesaf, yn ôl yr Ysgrifennydd Iechyd Vaughan Gething.

Ar hyn o bryd, mae disgwyl i’r etholiadau gael eu cynnal ar Fai 6, 2021 a byddai’n rhaid i Aelodau’r Senedd roi sêl bendith i unrhyw newidiadau i’r dyddiad hwnnw.

 

Ond mae Vaughan Gething yn dweud bod y coronafeirws “wedi newid popeth”.

 

Serch hynny, mae’n dweud nad oes awgrym ar hyn o bryd na all yr etholiadau gael eu cynnal.

 

“Does neb yn awgrymu nawr na all yr etholiadau fynd yn eu blaenau oherwydd mae’n bosib y bydd modd i ni ddweud y byddwn ni mewn sefyllfa erbyn hynny, pan fydd gyda ni frechlyn neu driniaeth wrth-firol effeithiol, ond alla i ddim rhoi unrhyw sicrwydd i chi am hynny,” meddai wrth ITV.

 

“Mae’n well o lawer bod yn onest na cheisio esgus y byddwn ni’n gwneud popeth yn ôl amserlen benodol.”