Fe fydd tafarndai, caffis, a bwytai yng Nghymru sydd a mannau eistedd awyr agored yn cael ail-agor ar Orffennaf 13 os yw achosion o’r coronafeirws yn parhau i ostwng.

Mae disgwyl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi heddiw (dydd Iau, Gorffennaf 2) y bydd y busnesau yma yn medru gweini cwsmeriaid y tu allan o Orffennaf 13 ymlaen, ond fe fydd gwasanaethau dan do yn parhau ynghau am y tro.

Fe fydd y cyfyngiadau yn cael eu llacio ar yr amod bod achosion o’r coronafeirws yn parhau i gwympo.

Mae disgwyl cyhoeddiad ar y mater gan weinidog Llywodraeth Cymru, Eluned Morgan, am 12.30 brynhawn heddiw.

Gweddill y Deyrnas Unedig

O holl wledydd y Deyrnas Unedig, Cymru yw’r unig wlad lle nad oes dyddiad ailagor ar gyfer y diwydiant lletygarwch.

Bydd tafarndai, bwytai, a chaffis yn ailagor yn Lloegr ar Orffennaf 4, ac mi fyddan nhw yn ailagor yng Ngogledd Iwerddon diwrnod yn gynt.

Yn yr Alban mi fydd gerddi tafarndai (beer gardens) a bwytai sydd y tu allan yn cael ailagor o Orffennaf 6 ymlaen. Bydd modd iddyn nhw aildanio gwasanaethau dan do o Orffennaf 15 ymlaen.

Mae disgwyl cyhoeddiad ddydd Gwener (Gorffennaf 3) ynghylch ailagor lletyau hunan-arlwyo yng Nghymru ar Orffennaf 13 ac mae disgwyl i’r cyfyngiadau teithio o 5 milltir gael eu llacio ddydd Llun.

Galw am sicrwydd

Mae llefarydd Plaid Cymru tros yr economi, Helen Mary Jones, eisoes wedi galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu yn hyn o beth.

“Dw i’n galw ar Lywodraeth Cymru i egluro pryd y bydd tafarndai a bwytai yn medru ailagor,” meddai.

“Os na ddaw cyhoeddiad, mae yna berygl go iawn y bydd llawer yn y sector yn cael gwared a swyddi, neu’n cael eu gorfodi i gau. Mae angen sicrwydd arnom cyn y bydd hi’n rhy hwyr.”

“Iechyd a diogelwch yn hollbwysig”

Wrth ymateb i gyhoeddiad Llywodraeth Cymru, dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol undeb TUC Cymru, Shavanah Taj:

“Rydym yn croesawu dull gofalus Llywodraeth Cymru o ddechrau ailagor y sector hwn yn raddol ac yn araf. Mae’r sector yn cyflogi llawer o bobl, gan gynnwys gweithwyr ifanc. Mae ein safbwynt yn glir – mae iechyd a diogelwch gweithwyr yn hollbwysig. Ni ellir rhoi iechyd gweithiwr uwchben elw cwmni. Mae angen inni wneud popeth a allwn i gadw’r sector hwn yn fyw ac i gadw swyddi’n ddiogel, yn enwedig yng ngoleuni’r cynnydd yn nifer y diswyddiadau sy’n cael eu cyhoeddi yn y sector lletygarwch ehangach.”

Ychwanegodd: “Mae angen i ni sicrhau bod yr holl fesurau iechyd a diogelwch yn cael eu dilyn a’u gorfodi’n briodol, drwy asesiadau iechyd a diogelwch Covid-19 yn y gweithle.  Byddwn yn parhau i bwyso i gwmnïau i dalu tâl salwch priodol os bydd angen i weithiwr hunan-ynysu, gan nad yw Tâl Salwch Statudol o £95 yr wythnos yn ddewis ymarferol, yn enwedig mewn diwydiant lle mae cyflog isel yn parhau i fod yn broblem wirioneddol.”