Mae’n debygol mai hen offer nwy oedd yn gyfrifol am achosi ffrwydrad mewn tŷ ym Mlaendulais ger Castell Nedd wythnos ddiwethaf, yn ôl yr heddlu.

Cafodd mam a’i dau blentyn eu hanafu’n ddifrifol yn y digwyddiad ddydd Mercher (Mehefin 24).

Fe wnaeth cymdogion helpu i dynnu Jessica Williams, 31, a’i dau blentyn ifanc o’r tŷ, oedd wedi dymchwel yn y ffrwydrad.

Cafodd y ddau blentyn eu cludo mewn ambiwlans awyr i Ysbyty Southmead ym Mryste a chafodd y fam driniaeth yn Ysbyty Treforys yn Abertawe.

Mae Jessica Williams mewn cyflwr “hynod ddifrifol ond sefydlog” tra bod ei meibion mewn cyflwr “difrifol ond sefydlog”.

Nid oes unrhyw dystiolaeth bod nwy wedi bod yn gollwng, meddai cwmni nwy GTC a dywed yr heddlu mai hen offer nwy oedd yn fwyaf tebygol o fod wedi achosi’r ffrwydrad.

“Roedd hwn yn ddigwyddiad trist ac mae ein meddyliau yn parhau i fod gyda’r teulu,” meddai’r Ditectif Arolygydd Gareth Eynon.

“Mae ymchwiliad yr heddlu wedi dod i’r casgliad nad oedd achos troseddol i’r ffrwydrad.

“Hoffwn ddiolch eto i’r gymuned am eu cefnogaeth yn ystod ein hymchwiliad”.