Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn dweud eu bod nhw’n poeni am effaith ar iechyd teuluoedd sy’n cael eu cadw ar wahân yn sgil rheol pum milltir Llywodraeth Cymru fel rhan o gyfyngiadau’r pandemig coronafeirws.

Roedd rhai yn disgwyl ac yn gobeithio y byddai Mark Drakeford, prif weinidog Cymru, yn llacio’r cyfyngiadau sy’n gofyn nad yw pobol yn teithio mwy na phum milltir i weld pobol mewn tŷ arall.

Byddai hynny’n nes at y rheolau yn Lloegr, sy’n galluogi pobol i deithio ymhellach erbyn hyn, ac mae siopau hefyd wedi’u hagor eto.

Ond mae Llywodraeth Cymru’n dal i bwysleisio mai gofal piau hi yng Nghymru, ac nad ydyn nhw am lacio cyfyngiadau cyn ei bod yn ddiogel iddyn nhw wneud hynny.

Bydd y rheolau’n cael eu hadolygu eto ymhen wythnos.

Teuluoedd ar wahân

Mae Wales Online yn adrodd am sefyllfaoedd nifer o deuluoedd sy’n cael eu cadw ar wahân yng Nghymru yn sgil y cyfyngiadau.

Mae’n adrodd am sefyllfa un fam sy’n cysgodi yn sgil sawl cyflwr iechyd, ac sydd heb weld un mab ers chwe wythnos gan ei fod wedi bod yn aros gyda’i dad, na’i mab arall ers dechrau’r cyfyngiadau am ei fod e hefyd yn byw gyda’i dad.

Dydy hi ddim chwaith wedi gallu gweld e imam-gu a’i thad-cu, sy’n byw 12 milltir oddi wrthi ym Merthyr Tudful.

Mae hefyd yn adrodd am sefyllfa cwpl arall yn y Trallwng, sydd â mab yng Nghroesoswallt a mab arall yn Sir Drefaldwyn, a dydyn nhw ddim eto wedi gallu gweld ŵyr sydd newydd ei eni.

Roedden nhw’n edrych ymlaen at weld eu teulu pan gyhoeddodd Boris Johnson fod y rheolau am gael eu llacio yn Lloegr, ond daethon nhw i sylweddoli’n fuan wedyn nad oedd y sefyllfa am newid yng Nghymru.

Mae Wales Online yn adrodd bod llawer iawn o deuluoedd mewn amryw o sefyllfaoedd tebyg.

Ymateb y Ceidwadwyr

“Mae’r straeon sy’n cael eu hadrodd yma’n dorcalonnus a, heb amheuaeth, dim ond crafu’r wyneb sydd yma,” meddai Angela Burns, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig.

“Mae lles meddyliol ac emosiynol nifer o bobol yng Nghymru, heb sôn am eu perthnasau – boed yn rhai rhamantus, teuluol neu gymdeithasol – yn y fantol wrth i’r rheol greulon hon aros yn ei lle.

“Rydyn ni’r Ceidwadwyr Cymreig wedi bod yn galw am ddull diogel a synhwyrol i lacio’r cyfyngiadau yma, a gobeithio y bydd y prif weinidog yn gwrando ar y galwadau hyn ac yn gwneud cyhoeddiad i’r perwyl hwnnw ddydd Gwener nesaf.”